Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014

Refferendwm ar ddyfodol Catalwnia a gynhaliwyd gan Generalitat de Catalunya (Arlywydd Catalwnia) oedd Refferendwm Catalwnia 2014, a ddiffiniwyd gan y Llywodraeth fel 'Dinasyddion yn cymryd rhan mewn proses sy'n ymwneud â dyfodol y wlad'[1] Fe'i galwyd hefyd yn Refferendwm Annibyniaeth Catalwnia.[2][3][4][5] a defnyddir y term 'y broses o gymryd rhan' gan y Llywodraeth wedi i Lys Cyfansoddiadol Sbaen ganslo "ymgynghoriad poblogaidd di-refferendwm" a oedd i'w gynnal ar yr un dyddiad (9 Tachwedd). Pleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynnol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais.[6]

a) Ydych chi'n dymuno i Gatalwnia fod yn Wladwriaeth? (Ydw/Nac ydw);
Os bydd yr ateb yn gadarnhaol yna:
b) a ydych chi'n dymuno i'r Wladriaeth fod yn annibynnol? (Ydw/Nac ydw).
Canlyniadau. Cryfder y lliw = cryfder y bleidlais. Gwyrdd = Ydw / ydw.
Dyddiad2014; 10 mlynedd yn ôl (2014)
LleoliadCatalwnia
Ydw - Ydw
  
80.76%
Ydw - Nac ydw
  
10.07%
Ydw - blanc
  
0.97%
Nac ydw
  
4.54%
blanc
  
0.56%
Gwefan
www.participa2014.cat

Gofynnwyd dau gwestiwn: "Ydych chi'n dymuno i Gatalwnia fod yn Wladwriaeth?" a hefyd "Os bydd yr ateb yn gadarnhaol yna, a ydych chi'n dymuno i'r Wladriaeth fod yn annibynnol?"[7][8]

Ar 19 Medi 2014, rhoddodd Llywodraeth Catalwnia (Esquerra Republicana de Catalunya) sêl eu bendith ar alwad am refferendwm ar annibyniaeth.[9] Roedd pleidlais i'w chynnal ar 9 Tachwedd.[10] Ar yr un diwrnod cyhoeddodd Llywodraeth Sbaen y byddent yn atal hyn drwy apelio yn Llys Cyfansoddiadol Sbaen.[11] Ar 29 Medi clywyd yr achos a gohiriwyd y bleidlais a oedd i'w chynnal.[12] Yn dilyn hyn cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia eu bod wedi 'gohirio dros dro' y bleidlais.[13]

Ar 14 Hydref, cynigiodd Artur Mas i Gavarró, Arlywydd y wlad 'broses i'w dinasyddion gymryd rhan yn nyfodol y wlad', yn hytrach na refferendwm.[14] Mynegodd Llywodraeth Catalwnia eu bwriad i apelio yn erbyn Llywodraeth Sbaen yn y Llys Cyfansoddiadol, a phenderfynodd y Llys (ar 4 Tachwedd) i ohirio'r bleidlais. Cyhoeddodd Llywodraeth Catalwnia y bydden nhw'n bwrw ymlaen gyda'r bleidlais, er gwaethaf penderfyniad Llys Cyfansoddiadol Sbaen.[15]

Bydd hawl gan dinasyddion dros 16 oed i bleidleisio.

Sbaen yn bygwth golygu

Gorchmynodd Eduardo Torres-Dulce ddiwrnod cyn y bleidlais i Heddlu Sifil Catalwnia (sef y Mossos d’Esquadra) i ddarganfod pwy oedd yn gweithio yn y canolfannau pleidleisio, a phwy oedd yn eu hagor. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Catalwnia na fyddai'r Mossos yn gwneud hynny. Ymatebodd Mas drwy ddweud, "Os ydy Llywodraeth Sbaen isio gwybod pwy sy'n gyfrifol am agor yr ysgolion, gallan nhw edrych arna i. Fi a fy Llywodraeth." [16]

Hanes golygu

Rhwng 2009 a 2011 cynhaliwyd sawl refferendwm answyddogol ar annibyniaeth y wlad. Cynhaliwyd y cyntaf yn Arenys de Munt ar 13 Medi 2009, ac yna Sant Jaume de Frontanyà ar 12 Rhagfyr ac mewn 166 rhanbarth y diwrnod wedyn a Barcelona gyfan yn Ebrill 2011.[17]

Datganiad o Sofraniaeth golygu

Ar 23 Ionawr 2013 cymeradwyodd Llywodraeth Catalwnia (gydag 85 pleidlais o blaid a 41 yn erbyn a dwy yn atal) "Ddatganiad o Sofraniaeth a'r Hawl i Bobl Catalwnia Benderfynu". Dyma ran ohono:

 
Canlyniadau'r bleidlais dros Ddatganiad o Sofraniaeth yn Llywodraeth Catalunia; 23 Ionawr 2013

Yn unol ag ewyllys mwyafrif pobol Catalwnia, sydd wedi'i fynegi mewn modd democrataidd, mae nawr yn fwriad gan Lywodraeth Catalwnia i gychwyn y broses o hyrwyddo hawl dinasyddion Catalwnia i benderfynu gyda'i gilydd eu dyfodol gwleidyddol.[18]

Ar 8 Mai 2013 gohiriodd Llys Cyfansoddiadol, Sbaen y datganiad hwn, 'dros dro'.[19][20]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "9N/2014". Llywodraeth Catalwnia. Cyrchwyd 28 Hydref 2014.
  2. "Catalonia president signs independence referendum decree". Cyrchwyd 27 Medi 2014.
  3. "Catalan Leader Signs Decree for Independence Referendum". Cyrchwyd 27 Medi 2014.
  4. "Catalonian leader orders referendum on independence from Spain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-16. Cyrchwyd 27 Medi 2014.
  5. "Catalonia president orders independence referendum on Nov. 9". Cyrchwyd 27 Medi 2014.
  6. Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 10 Tachwedd 2014
  7. Catalan President Mas: "The country's good sense has made it possible to come to a consensus and agree on an inclusive, clear question, which enjoys broad support" Archifwyd 2013-12-17 yn y Peiriant Wayback., Llywodraeth Catalwnia.
  8. Political parties announce date for vote on Catalonia independence, CNN.
  9. "Catalan parliament approves independence vote". BBC. 19 Medi 2014. Cyrchwyd 21 Medi 2014.
  10. "Catalonia president signs independence referendum decree". BBC. 27 SeMedi 2014. Check date values in: |date= (help)
  11. Manetto, Francesco (27 Medi 2014). "Sáenz de Santamaría: "Lamentamos profundamente el error de Mas"". El País. Cyrchwyd 28 SMedi 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  12. "Spain higher court suspends Catalonia vote". 29 Medi 2014. Cyrchwyd 29 Medi 2014.
  13. "Spain's Constitutional Court suspends Catalan independence referendum". 4 Hydref 2014.
  14. ""Citizen participation" proposed for cancelled Catalonia referendum". 14 Hydref 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-08. Cyrchwyd 2014-11-09.
  15. "Catalonia maintains Tachwedd vote despite new suspension of process". 4 Tachwedd 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-04. Cyrchwyd 2014-11-09.
  16. Gwefan www.bloomberg.com; adalwyd 09 Tachwedd 2014
  17. New York Times Catalans Vote In "Referendum" on Independence[dolen marw]
  18. Marco (22 Ionawr 2013). "The declaration of sovereignty starts off in Parliament" (yn Catalaneg). Ara.
  19. "El Tribunal Constitucional suspende la declaración soberanista de Parlamento de Cataluña". abc.es. Cyrchwyd 8 Mai 2013.
  20. "El Constitucional suspèn la declaració de sobirania" (yn Catalaneg). ara.cat. Cyrchwyd 8 Mai 2013.