Rent (sioe gerdd)
Mae Rent yn sioe gerdd sy'n seiliedig ar opera Giacomo Puccini, La Bohème. Ysgrifennwyd y geiriau a'r gerddoriaeth gan Jonathan Larson. Adrodda hanes grŵp o artistiaid a cherddorion tlawd sy'n brwydro i oroesi a chreu yn Ochr Ddwyreiniol Isaf Efrog Newydd yn ystod cyfnod bohemaidd y ddinas. Mae'r afiechyd AIDS yn gefnlen i'r sioe.
Rent | |
Poster y sioe wreiddiol | |
---|---|
Cerddoriaeth | Jonathan Larson |
Geiriau | Jonathan Larson |
Llyfr | Jonathan Larson |
Seiliedig ar | Yn seiliedig ar opera Giacomo Puccini La bohème |
Cynhyrchiad | 1993 Gweithdy a darlleniad 1994 Oddi-ar Broadway 1996 Broadway 1996 Taith Genedlaethol UDA 1998 WEst End 1998 Awstralia 2001 Taith y DU 2003 Adfywiad yn West End Llundain 2005 Ffilm 2006 Rent 10 2007 Adfywiad yn West End Llundain 2009 Taith Genedlaethol UDA 2009 Cyngerdd yn y West End |
Gwobrau | Gwobr Pulitzer am Ddrama Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau Gwobr Tony am y Llyfr Gorau Gwobr Tony am y Sgôr Orau Sioe Gerdd Eithriadol Drama Desk Llyfr Eithriadol Drama Desk |
Gwelwyd y sioe gerdd am y tro cyntaf mewn gweithdy tair wythnos yng Gweithdy Theatr Efrog Newydd ym 1994. Pan agorodd y sioe yn swyddogol ar 25 Ionawr 1996, defnyddiwyd yr un theatr sydd oddi-ar prif ardal Broadway. Bu farw crëwr y sioe, Jonathan Larson, yn sydyn iawn y noson cyn y noson agoriadol. Enillodd y sioe Wobr Pulitzer ac roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant. Yn ddiweddarach, symudwyd y sioe i theatr mwy o faint sef y Theatr Nederlander ar Broadway ar 29 Ebrill 1996.
Ar Broadway, derbyniodd Rent feirniadaethau canmoladwy, gan ennill Wobr Tony am y Sioe Gerdd Orau ymysg gwobrau eraill. Daeth y sioe gerdd hon a chast gydag amrywiaeth o gefndiroedd ethnig a phynciau dadleuol i fyd y sioe gerdd a oedd yn draddodiadol geidwadol, ac arweiniodd hyn yn ei dro i gynyddu poblogrwydd theatr cerdd ymysg y genhedlaeth iau. Daeth y cynhyrchiad ar Broadway i ben ar 7 Medi 2008 ar ôl cyfnod o 12 mlynedd, a 5,124 o berfformiadau gan wneud y sioe y seithfed sioe i gael ei pherfformio am y cyfnod hiraf ar Broadway, chwe mlynedd ar ôl The Phantom of the Opera. Gwnaeth y sioe rent dros $280 miliwn.
Yn sgîl llwyddiant y sioe, cafwyd nifer o deithiau cenedlaethol a chynhyrchiadau rhyngwladol, ac yn 2005 cafodd ei addasu'n ffilm sy'n serennu y rhan fwyaf o'r cast gwreiddiol.
Caneuon
golygu
|
|
Cymeriadau
golyguCymeriad yn La bohème | Cymeriad yn Rent (sioe gerdd) |
---|---|
Mimi, gwnïadurwraig gyda'r diciàu | Mimi Márquez, dawnswraig egsotig gyda HIV |
Rodolfo, bardd | Roger Davis, cyfansoddwr sy'n HIV |
Marcello, peintiwr | Mark Cohen, gwneuthurwyr ffilmiau |
Musetta, canwr | Maureen Johnson, artist berfformio cyfunrywiol |
Schaunard, cerddor | Angel Dumott Schunard, perfformiwr drag hoyw sydd ag AIDS |
Colline, athronydd | Tom Collins, athro athronyddiaeth hoyw ac anarchydd gydag AIDS |
Alcindoro, cynghorydd taleithiol | Joanne Jefferson, cyfreithwraig, sydd hefyd yn lesbiad (Hefyd yn rhannol seiliedig ar Marcello) |
Benoit, landlord | Benjamin 'Benny' Coffin III, y landlord lleol a chyn-rannwr ystafell gyda Roger, Mark, Collins, a Maureen |