Rhagod
Ymosodiad dirybudd o safle guddiedig yw rhagod (Saesneg: ambush); gall hefyd olygu 'atalfa' neu 'rwystr'. Gall y cuddfan fod yn nodwedd naturiol e.e. coedwig, neu'n guddliw ar y person sy'n paratoi i ymosod.
Enghraifft o'r canlynol | tacteg filwrol |
---|---|
Math | ymgais i lofruddio |
Er enghraifft, yng Nghwnsyllt, yng ngantref Tegeingl (heddiw yn Sir y Fflint), gosododd Owain Gwynedd, Tywysog Cymru, ragod ar Harri II, brenin Lloegr.[1]
Yn aml, mae'r elfen o ymosodiad dirybudd, sydyn, yn un pwysig mewn tactegau milwrol, ac fe'i defnyddiwyd yn aml gan y Cymry yn yr oesoedd canol, fel rhan o'u tactegau 'taro a ffoi'.
Geirdarddiad a defnydd cynnar
golyguNid oes sicrwydd beth yw tarddiad y gair, ond fe'i defnyddiwyd gan Cynddelw Brydydd Mawr yn y 12g.[2]
- Camp ragod aruod, arueityaw — ac aryf
- Ac arhos heb gilyaw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; gol: John Davies ayb.
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC) arlein.