Cwmwd yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar lan aber afon Dyfrdwy oedd Cwnsyllt (Saesneg: Coleshill). Gyda chymydau Prestatyn a Rhuddlan, roedd yn rhan o gantref Tegeingl.

Gorwedd y cwmwd ar lan aber afon Dyfrdwy ar arfordir Clwyd. Ffiniai â chymydau Rhuddlan a Prestatyn i'r gorllewin, cantref Dyffryn Clwyd i'r de, a chymydau Powys Fadog i'r de-ddwyrain.

Ei ganolfan eglwysig bwysicaf oedd Abaty Dinas Basing.

Ar ôl Statud Rhuddlan, 1284, daeth y cwmwd yn rhan o'r Sir y Fflint newydd.

Brwydr Cwnsyllt golygu

Fe'i cofir yn hanes Cymru am y fuddugoliaeth a gafodd Owain Gwynedd ar Harri II, brenin Lloegr, yng nghoedwig Cwnsyllt ger Bryn y Glo efallai, yn 1157: dihangodd brenin Lloegr o gyflafan trwy drwch blewyn yn dilyn rhagod gan y Fyddin Gymreig.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; gol: John Davies ayb.