Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville
Rhanbarth ymreolaethol yn Papua Gini Newydd, Oceania, yw Bougainville, yn swyddogol y Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville. Ynghyd â Ynys Bougainville ei hun, mae'r rhanbarth yn cynnwys Ynys Buka a nifer o ynysoedd ac atolau anghysbell.
Math | administrative territorial entity of Papua New Guinea, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, endidau tiriogaethol rheolaethol |
---|---|
Prifddinas | Buka |
Poblogaeth | 349,358 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Papua Gini Newydd |
Gwlad | Papua Gini Newydd |
Arwynebedd | 9,357 km² |
Cyfesurynnau | 6°S 155°E |
PG-NSB | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of the Autonomous Region of Bougainville |
CMC y pen | $4,151 |
Yng nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 249,358.[1] Tok Pisin yw lingua franca Bougainville, er bod amrywiaeth o ieithoedd Awstronesaidd ac ieithoedd eraill yn cael eu siarad yno.
Mae mudiad ymwahanol cryf wedi bodoli yn Bougainville ers y 1960au, a datganodd y rhanbarth ei hannibyniaeth ychydig cyn annibyniaeth Papua Gini Newydd yn 1975. Beth bynnag, ymgorfforwyd Bougainville yn Papua Newydd yn y flwyddyn ganlynol. Ar ôl ymgyrch dreisgar dros annibyniaeth cynhaliwyd refferendwm yn 2019; o'r 87.6% y poblogaeth a bleidleisiodd, roedd 98.3% o blaid annibyniaeth. Cytunodd y ddwy lywodraeth yn 2021 ar amserlen yn rhagweld datganoli pwerau pellach i Bougainville yn 2023 ac annibyniaeth lawn yn 2027 fan bellaf.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 10 Mehefin 2022
- ↑ "Bougainville: Nation Profile", Nationalia; adalwyd 12 Mehefin 2022