Rheilffordd Canol Hampshire

rheilffordd gul yn Hampshire, Lloegr

Rheilffordd dreftadaeth yw Rheilffordd Canol Hampshire. Adwaenir y rheilffordd yn well fel y 'Lein Watercress'. Mae'r lein yn un serth, felly defnyddir dim ond locomotifau pŵerus.[1]

Rheilffordd Canol Hampshire
Enghraifft o'r canlynolrheilffordd dreftadaeth, ELR railway line section Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthHampshire Edit this on Wikidata
Hyd16.575 milltir Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.watercressline.co.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rheilffordd Canol Hampshire
Continuation backward
lein Alton
Station on track
Alton
Unknown BSicon "exCONTgq" Unknown BSicon "eABZgr"
Rheilffordd ysgafn Basingstoke ac Alton
Unknown BSicon "eABZgl" Unknown BSicon "exCONTfq"
Rheilffordd Dyffryn Meon
Unknown BSicon "hSTRae" Unknown BSicon "lGIPr"
Pont Boyneswood (uchafpwynt y lein)
Stop on track
Medstead a Four Marks
Non-passenger station/depot on track
Ropley (depo locomotifau)
Stop on track
Ropley
Stop on track
Alresford
Unknown BSicon "ENDExe"
seidins Alresford
Unknown BSicon "exHST"
Itchen Abbas
Unknown BSicon "exSKRZ-Bo"
Traffotdd M3
Unknown BSicon "CONTgq" Unknown BSicon "eABZql+l" Station on transverse track Unknown BSicon "CONTfq"
Caerwynt Prif lein o Lundain
Unused continuation forward
Rheilffordd Didcot, Newbury a Southampton

Hanes golygu

Crëwyd cwmni Rheilffordd Alton, Alresford a Winchester ym Mehefin 1861 er mwyn adeiladu rheilffordd yn cysylltu'r 3 lle ac i gludo berwr y dŵr o Alresford i Lundain. Daeth y cwmni'n Rheilffordd Canol Hampshire (Alton) ym 1865 ac agorodd y lein ym mis Hydref. Prynwyd y lein gan gwmni Rheilffordd Llundain a'r De Orllewin ym 1884. Daeth y rheilffordd yn rhan o'r Rheilffordd Deheuol ym 1923. Trydanwyd y lein o Lundain i Alton ym 1937.[1]

Atgyfodi golygu

Ym 1972, cyhoeddwyd y buasai'r lein rhwng Alton a Chaerwynt yn cau ar 4 Chwefror 1973. Felly ffurfiwyd 2 gwmni, Cwmni Rheilffordd Caerwynt ac Alton, a Chymdeithas Gwarchodaeth Rheilffordd Canol Hampshire. Bwriadwyd bod yr un cyntaf yn rhedeg trenau diesel rhwng Caerwynt ac Alton yn ystod yr wythnos, ac yr ail yn defnyddio trenau stêm dros y penwythnos. Ni chodwyd digon o arian, felly penderfynwyd i brynu'r lein rhwng Alresford ac Alton.

Daeth y locomotif stêm cyntaf, o ddosbarth N, ym Mawrth 1974 o Iard Sgrap Dai Woodham, Ynys y Barri, ac atgyweiriwyd y locomotif ym 1975. Aeth y trên gyntaf rhwng Alresford i Ropley ar 30 Ebrill 1977.

Adeiladwyd gweithdy a sied yn Ropley ar gyfer locomotifau ym 1980. Newidiwyd Gorsaf reilffordd Alton i wahanu trenau'r rheilffordd stêm a threnau Rheilffyrdd Prydeinig. Estynnwyd y lein at orsaf reilffordd Medstead a Four Marks erbyn 28 Mai 1983. Estynnwyd y lein i Alton a chyraeddodd y trên gyntaf Alton ar 12 Ebrill 1985.[1]

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu