Rheilffordd Canolfan y Dechnoleg Amgen

Rheilffordd ffwniciwlar yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth, Powys, yw Rheilffordd Canolfan y Dechnoleg Amgen. Fe'i hagorwyd ym Mai 1992.

Rheilffordd Canolfan y Dechnoleg Amgen
rheilffordd wedi'i bweru gan ddŵr
Mathatyniad twristaidd, Water-powered funicular railway Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.623°N 3.84°W Edit this on Wikidata
Map

Mae dau gerbyd wedi'u cysylltu gan gebl yn cael eu gyrru gan ddisgyrchiant i fyny ac i lawr llethr gyda goleddf o 35 gradd. Pan fydd angen i deithwyr esgyn neu ddisgyn, mae dŵr yn llifo i danc yn y cerbyd uchaf nes ei fod yn ddigon trwm i dynnu'r cerbyd isaf i fyny. Ar ôl i'r breciau gael eu rhyddhau mae disgyrchiant yn gwneud y gwaith. Mae'r cerbyd trymach uchaf yn disgyn i'r gwaelod, ac felly'n tynnu'r cerbyd ysgafnach gwaelod i'r brig. Mae'r dŵr yn cael ei ryddhau o danc y cerbyd sydd bellach ar y gwaelod, ac mae'r broses yn barod i ddechrau eto.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.