Rheilffordd Stêm Ynys Wyth
Rheilffordd Treftadaeth rhwng Cyffordd Smallbrook a Wootton ydy Rheilffordd Stêm Ynys Wyth.
Enghraifft o'r canlynol | rheilffordd dreftadaeth |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1966 |
Lled y cledrau | 1435 mm |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Ynys Wyth |
Hyd | 8.9 cilometr |
Gwefan | http://www.iwsteamrailway.co.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rheilffordd Stêm Ynys Wyth | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Hanes
golyguAgorwyd Rheilffordd Ryde a Newport ar 20 Rhagfyr 1875 o Gyffordd Smallbrook, yn ymyl Ryde, i Newport, Ynys Wyth, lle cysylltiodd y lein efo Rheilffordd Cowes a Newport. Daeth y ddwy reilffordd yn un, y Rheilffordd Ganolog Ynys Wyth ym 1887. Daeth y rheilffordd yn rhan y Rheilffordd Llundain a'r De Orllewin ar 31 Rhagfyr 1922, ac y cwbl yn rhan o'r Rheilffordd Deheuol y diwrnod nesaf. Daeth rheilffyrdd yr ynys yn rhan o Reilffyrdd Prydeinig ym 1948. Caewyd y lein ar 21 Chwefror 1966.[1]
Atgyfodi
golyguCynhaliwyd cyfarfod yn Llundain ym 1965, a chytunwyd i geisio prynu locomotiv dosbarth 'O2' a cherbydau. Ffurfiwyd Cymdeithas Locomotif Wyth. Prynwyd locomotif O2 'Calbourne' efo cymorth cyllidol gan yr arlynydd David Shepherd a phrynwyd 5 cerbyd yn ddiweddarach[2], a phrynwyd y lein rhwng Wootton a Havenstreet, a symudwyd y locomotif a cherbydau o Newport i Havenstreet ar 24 Ionawr 1971.[3] Agorwyd gorsaf reilffordd Havenstreet ar bob yn ail p.nawn Sul dros yr haf ym 1971. Agorwyd gorsaf newydd yn Wootton ar 7 Awst 1976. Estynnwyd gwasanaethau i Gyffordd Smallbrook ar 20 Gorffennaf 1991.[2]
Agorwyd Canolfan ymwelwyr yn Havenstreet ar April 6, 2014 [4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Tudalen hanes rheilffyrdd yr ynys ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-30. Cyrchwyd 2016-07-16.
- ↑ 2.0 2.1 Gwefan woottonbridge
- ↑ "Tudalen am atgyfodiad ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-22. Cyrchwyd 2016-07-16.
- ↑ "Gwefan rail.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-26. Cyrchwyd 2016-07-16.