Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex
Agorwyd Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex, o led safonol, 12 milltir o hyd, o Tenterden i cyffordd efo Rheilffordd De Ddwyrain a Chatham yn Robertsbridge i drenau nwyddau ar 26 Mawrth 1900, ac i deithwyr ar 2 Ebrill[1], gyda'r enw Rheilffordd Dyffryn Rother.
Math o gyfrwng | cwmni rheilffordd, rheilffordd dreftadaeth, ELR railway line section |
---|---|
Gweithredwr | Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex |
Olynydd | Southern Region of British Railways |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Dwyrain Sussex |
Hyd | 21.4375 milltir |
Gwefan | http://www.kesr.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Hanes
golyguAdeiladwyd y lein gan gwmni Godfrey & Siddelow o dan pŵerau'r Deddf Rheilffyrdd Ysgafn o 1896, yn caniatáu rheilffyrdd rhatach efo cyfyngiadau cyflymder; aeth y rheilffordd trwy ardal amaethyddol iawn. Defnyddiwyd cledrau Vignoles[1]. Ailenwyd y rheilffordd yn Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex yn 1904, yn disgwyl estyniadau i Rye, Cranbrook, Appledore, Pevensey a Maidstone[2]. Estynnwyd y lein i orsaf Tenterden (Town) ac ymlaen at cyffordd arall efo Rheilffordd De Ddwyrain a Chatham yn Headcorn ar 15 Mai 1905, a daeth y rheilffordd yn 22 milltir o hyd. Arhosodd y rheilffordd yn annibynnol ar ôl 1923 ac roedd Cyrnol Stephens yn beiriannydd, oruwchwylwr a rheolwr cyfarwyddwr y rheilffordd yn gweithio mewn swyddfa yn Tonbridge. Bu farw Stephens ym 1931. W H Austen oedd ei olynydd[2]. Caewyd y lein i deithwyr ar 2 Ionawr 1954, ac yn gyfan gwbl gan Rheilffyrdd Brydeinig ar 12 Gorffennaf 1961.[3]
Atgyfodi
golyguFfurfiwyd Cymdeithas Gwarchodaeth Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex ym 1961. Prynwyd y lein rhwng Tenterden a Bodiam ym 1973.
Ailagorwyd yn rheilffordd treftadaeth ar 3 Chwefror 1974, rhwng Tenterden a Rolvenden. Estynnwyd y lein i Ffordd Wittersham ym 1977 ar ôl ailadeiladu pont dros Sianel Newmill[2] i Northiam ym 1990 ac wedyn i Bodiam ar 2 Ebrill 2000[1]. Erbyn hyn, mae'r lein yn 10 milltir a hanner o hyd, rhwng Tenterden a Bodiam.[4]
Mae cwmni arall, Rheilffordd Dyffryn Rother, yn bwriadu ailagor y lein rhwng Bodiam a Robertsbridge.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwefan Rheilffordd Dyffryn Rother
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-02. Cyrchwyd 2016-07-12.
- ↑ Tudalen Rheilffordd Dyffryn Rother ar wefan Cyrnol Stephens
- ↑ "Gwefan Tenterden". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-28. Cyrchwyd 2016-06-22.