Rheilffordd Ysgafn Docklands

Rheilffordd ysgafn sy'n gwasanaethu Docklands Llundain, sef ardal y dociau a ailddatblygwyd yn Llundain yn y 1980au, yw Rheilffordd Ysgafn Docklands (Saesneg: Docklands Light Railway; DLR). Mae'n darparu cysylltiad uniongyrchol rhwng dwy brif ardal ariannol Llundain, sef Dinas Llundain a Canary Wharf. Fe'i hagorwyd ar 31 Awst 1987. Mae wedi cael ei hymestyn sawl gwaith, gan roi cyfanswm hyd o 38 km (24 milltir). Mae llinellau bellach yn cyrraedd y gogledd i Stratford, i'r de i Lewisham, i'r gorllewin i Tower Gateway a Bank yn ardal ariannol Dinas Llundain, ac i'r dwyrain i Beckton, Maes Awyr Dinas Llundain a Woolwich Arsenal.[1]

Rheilffordd Ysgafn Docklands
Mathlight rail system, trafnidiaeth gyflym awtomataidd, llinell rheilffordd Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLlundain Fawr
Agoriad swyddogol31 Awst 1987 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1987 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTransport for London Edit this on Wikidata
SirLlundain Fawr
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5°N 0.083333°W Edit this on Wikidata
Hyd24 milltir Edit this on Wikidata
Nifer y teithwyr116,800,000 Edit this on Wikidata
Rheolir ganSerco Group, Keolis Amey Docklands Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethTransport for London, London Regional Transport, London Docklands Development Corporation Edit this on Wikidata

Gweithredir y gwasanaeth yn awtomatig, felly ychydig iawn o staff sydd ar y 149 trenau (sydd heb gabiau gyrru) ac mewn gorsafoedd cyfnewidfa mawr.

 
Llwybr daearyddol gywir Rheilffordd Ysgafn Docklands

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jolly, Stephen (1986). Docklands Light Railway : official handbook 1987. Bob Bayman. Harrow Weald: Capital Transport. t. 7. ISBN 0-904711-80-3. OCLC 18746528.