Rheinallt ap Gruffudd

Uchelwr o'r Wyddgrug, Sir y Fflint oedd Rheinallt ap Gruffudd ap Bleddyn (tua 1438 - 1465/6).[1] Mae'n adnabyddus am amddiffyn y Cymry yn erbyn Saeson dinas Caer ac am grogi maer y ddinas honno ar ôl iddo ymosod ar yr Wyddgrug.

Rheinallt ap Gruffudd
Ganwyd1430s Edit this on Wikidata

Perchennog Y Tŵr yn y Wyddgrug oedd Rheinallt. Roedd yn uchelwr lleol ac yn filwr. Cymerodd ran yr Lancastriaid yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Yn 1461 fe'i cofnodir mewn dogfen Seisnig fel un o garsiwn Cymreig Castell Harlech, cadarnle'r Lancastriaid yng ngogledd Cymru.[2]

Yn ôl traddodiad, crogodd faer Caer ar ystwffl tu allan i'r Tŵr yn 1464 ar ôl curo gwŷr Caer mewn sgarmes wedi iddynt ymosod ar y Wyddgrug.[1] Roedd hynny ar ôl i Reinallt ac eraill, oedd yn dal yng Nghastell Harlech ar y pryd, gael eu cyhuddo o gefnogi terfysg yng ngogledd Cymru yn enw'r Lancastriaid mewn bil a basiwyd gan Senedd Lloegr. Rhoddwyd proclamasiwn brenhinol allan i gael ei ddarllen yn gyhoeddus gan faer Caer yn bygwth y gosb eithaf i Reinallt ac amddiffynwyr eraill Harlech os nad oeddent yn ildio erbyn Ionawr 1 1465.[2] Er nad oes cofnod, ymddengys fod Rheinallt wedi gadael Harlech a dychwelyd i'r Wyddgrug i amddiffyn ei bobl a'i eiddo yn erbyn maer Caer a oedd wedi derbyn y proclamasiwn fel esgus i ymosod ar y Cymry lleol, eu lladd a dwyn eu heiddo; dyna a arweiniodd at y sgarmes yn y Wyddgrug a chrogi'r maer.

Cedwir cerddi mawl i Reinallt ap Gruffudd gan rai o feirdd y cyfnod, yn cynnwys dau gywydd mawl gan Hywel Cilan[3] a cherddi mawl eraill gan Gutun Owain a Tudur Penllyn.[4] Canodd mab Tudur, Ieuan ap Tudur Penllyn, farwnad iddo.[4]

Ysgrifennodd Isaac Foulkes ('Llyfrbryf') nofel hanesyddol ramantus am Reinallt a gyhoeddwyd yn 1874, sef Rheinallt ab Gruffudd.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. 2.0 2.1 H. T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915; arg. newydd 1998), tud. 87.
  3. Islwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963).
  4. 4.0 4.1 Thomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn (Caerdydd, 1958).
  5. Rheinallt ab Gruffydd (Rhamant) ar Wicidestun