Rheinallt ap Gwynedd
Gitarydd o Gymru yw Rheinallt Wyn ap Gwynedd, sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae gyda'r band Apollo 440.
Rheinallt ap Gwynedd | |
---|---|
Galwedigaeth | cerddor |
Arddull | cerddoriaeth electronig |
Mae'n frawd i'r actores Llinor ap Gwynedd, a'r gîtarydd, Peredur ap Gwynedd.[1]
Mae wedi chwarae'r gîtar fâs ar gyfer nifer o gerddorion adnabyddus megis Richard Ashcroft a KT Tunstall. Ymddangosodd ar raglen Ysgol Roc S4C yn 2010. Mae'n seiclwr brwd tebyg i'w frawd a mae'r ddau yn cyd-sylwebu ar raglenni S4C o'r Tour de France.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rachel Mainwaring (10 Mai 2009). Top 50 single women in Wales. Wales On Sunday.
- ↑ Le Tour de France ar S4C. S4C (4 Gorffennaf 2017).
Dolenni allanol
golygu