Peredur ap Gwynedd

Gitarydd o Gymru yw Peredur Wyn ap Gwynedd (ganed 1970), sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae gyda'r band Awstralaidd Pendulum.

Peredur ap Gwynedd
Ganwyd5 Tachwedd 1970 Edit this on Wikidata
Pont-y-pŵl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
Arddullroc electronig Edit this on Wikidata

Ganed ym Mhontypŵl ac mae'n byw yn Llundain ar y hyn o bryd. Mae'n frawd i'r actores Llinor ap Gwynedd, a chwaraewr gîtar fâs y band Apollo 440, Rheinallt ap Gwynedd.[1]

Roedd hefyd yn feirniad ar raglen deledu "Waw Ffactor" yn 2005.[2] Mae wedi chwarae'r gîtar ar gyfer nifer o gerddorion adnabyddus megis Natalie Imbruglia, Norman Cook, Sophie Ellis Bextor a Mylène Farmer. Ymunodd â Pendulum yn 2006. Mae'n seiclwr brwd tebyg i'w frawd a mae'r ddau yn cyd-sylwebu ar raglenni S4C o'r Tour de France.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Rachel Mainwaring (10 Mai 2009). Top 50 single women in Wales. Wales On Sunday.
  2. [1] Archifwyd 2012-10-25 yn y Peiriant Wayback Liverpool Daily Post 19 Awst 2005
  3.  Le Tour de France ar S4C. S4C (4 Gorffennaf 2017).

Dolenni allanol

golygu