Llinor ap Gwynedd
Actores o Gymraes yw Llinor Wyn ap Gwynedd (ganed 20 Mehefin 1974),[1] sydd fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Gwyneth Jones yn opera sebon S4C Pobol y Cwm.[2] Mae hefyd wedi ymddangos yn y rhaglen radio gysylltiedig, Eileen.
Llinor ap Gwynedd | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mehefin 1974 Crymych |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Ganed hi yng Nghrymych, Sir Benfro, ac mae'n chwaer i gitarydd y band o Awstralia, Pendulum, Peredur ap Gwynedd, a chwaraewr gîtar fâs y band Apollo 440, Rheinallt ap Gwynedd.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Llinor shaves her head for Pobol y Cwm role (2005).
- ↑ Gwyneth Jones (Llinor ap Gwynedd). BBC Wales. Adalwyd ar 29 ionawr 2011.
- ↑ Rachel Mainwaring (10 Mai 2009). Top 50 single women in Wales. Wales On Sunday.