Mae rheoli data (neu rheoli gwybodaeth) yn ymgorffori pob disgyblaeth academaidd parthed data fel adnodd defnyddiol.

Cysyniad golygu

Cododd y cysyniad o reoli data yn y 1980au, wrth i dechnoleg a thechnoleg gwybodaeth ddatblygu yn fwyfwy digidol. Yn sgil y gallu i gadw gwybodaeth ar ddisgiau a RAM, daeth rheoli data yn bwysicach na'i ragflaenydd, sef 'rheoli prosesau busnes'. Roedd hi bellach yn bosib archwilio data yn fyw, a newidiodd cyfeiriad y rheoli i ansawdd y data yn ogystal â chyflymder trin a thrafod yr wybodaeth.

Pynciau o fewn rheoli data golygu

Ymhlith y pynciau academaidd a astudir o fewn rheoli data mae:

  1. Llywodraethiant data (Data governance)
  2. Pensaerniaeth data
  3. Modelu data a chynllunio
  4. Rheoli cronfeydd a storio data
    • Cynnal a chadw data
    • Gweinyddiaeth data
    • Rheolaeth systemau cronfeydd data (Database management system)
    • Cynllunio parhad busnesau (Business continuity planning)
  5. Gwarchod data
  6. Integreiddio data a'r gallu i ryngweithredu
    • Trosglwyddo data (echdynnu, trawsnewid, trosglwyddo a llwytho)
    • Y gallu i ryngweithredu data
  7. Dogfennaeth a chynnwys
  8. Archifo data a deallusrwydd busnes (Data warehousing and business intelligence)
  9. Metadata
    • Rheoli metadata
    • Metadata
    • Canfod metadata
    • Cyhoeddi metadata
    • Cofrestrau o fetadata
  10. Ansawdd y data

Defnydd golygu

O ddydd i ddydd, mae'r defnydd o'r term rheoli data, yn araf yn cael ei ddisodli gan reoli gwybodaeth (information a knowledge). Yn y 2010au, fodd bynnag, dychwelodd y gair 'data', yn ôl i'r ffasiwn, gyda Wicidata, Metadata, Big data a Chloddio data.

Ceir sawl canolfan rheoli data, bellach, a godwyd yn unswydd ar gyfer y gwaith hwn.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Kumar, Sangeeth; Ramesh, Maneesha Vinodini (2010). "Lightweight Management framework (LMF) for a Heterogeneous Wireless Network for Landslide Detection". In Meghanathan, Natarajan; Boumerdassi, Selma; Chaki, Nabendu; Nagamalai, Dhinaharan (gol.). Recent Trends in Networks and Communications: International Conferences, NeCoM 2010, WiMoN 2010, WeST 2010,Chennai, India, July 23-25, 2010. Proceedings. Communications in Computer and Information Science. 90. Springer. t. 466. ISBN 9783642144936. Cyrchwyd 2016-06-16. 4.4 Data Management Center (DMC)[:] The Data Management Center is the data center for all of the deployed cluster networks. Through the DMC, the LMF allows the user to list the services in any cluster member belonging to any cluster [...].