Rhestr baneri'r Alban

(Ailgyfeiriad o Rhestr baneri yr Alban)

Dyma restr baneri'r Alban. Am faneri eraill a ddefnyddir yn yr Alban yn ogystal â gweddill y Deyrnas Unedig, gweler Rhestr baneri y Deyrnas Unedig.

Y faner genedlaethol

golygu
Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  tua 900 Baner yr Alban, a elwir hefyd yn Groes San Andreas Sawtyr gwyn ar faes glas

Baneri brenhinol

golygu
Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
 
tua 1930 Y Faner Frenhinol, fel y defnyddir yn yr Alban Baner arfbais y Frenhines ac arfbais frenhinol yr Alban
 
1323 - Hen Arfau Brenin yr Alban Baner ac arni hen arfau Brenhinol Brenin yr Alban, mae'n dal i gael ei defnyddio gan gynrychiolwyr y frenhiniaeth gan gynnwys Prif Weinidog yr Alban (fel daliwr Sêl Mawr yr Alban, Uwch Gomisiynydd Cynulliad Cyffredinol Eglwys yr Alban ayb [1] Caiff hefyd ei chyhwfan uwch Balas Holyrood a Chastell Balmoral pan nad ydy'r frenhines yn bresennol.

Baneri sirol

golygu
Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
 
2007 Baner Ynysoedd Erch Coch gyda Chroes Sgandinafaidd ag amlinell felen sy'n cyrraedd ymylon y faner. Daw'r lliwiau o faneri brenhinol yr Alban a Norwy a baner yr Alban.[2]
 
Crëwyd ym 1969, cofrestrwyd yn 2005 Baner Shetland Glas gyda Chroes Sgandinafaidd wen. Daw'r lliwiau o faner yr Alban.[2]

Baneri hanesyddol

golygu
Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  17g - 1707 Y Lluman Coch Albanaidd, fel y defnyddiwyd gan Lynges Frenhinol yr Alban Lluman coch gyda baner yr Alban yn y canton
  1606 - 1707 Baner Sgotaidd yr Undeb Baner yr Undeb gyda Chroes San Andreas dros Groes San Siôr

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. The "Lion Rampant" Flag Archifwyd 2011-06-05 yn y Peiriant Wayback The Court of the Lord Lyon. Adalwyd 28 Rhagfyr 2008.
  2. 2.0 2.1 Bartram, Graham. "United Kingdom Sub-national flags". Ruislip: The World Flag Database.