Agor y brif ddewislen

Rhestr o arfbeisiau hanesyddol Cymru

Mae'r erthygl hon yn rhestru rhai o arfbeisiau hanesyddol Cymru. Am restr o faneri Cymreig, gweler yma.

Ceir dau fath o arfbais, arfbais personol yr unigolyn (arglwydd neu uchelwr fel arfer) ac arfbais a oedd yn perthyn i deyrnas neu ran o'r wlad.

Arfbeisiau personol Tywysogion CymruGolygu

Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  1267-83, 1400au Arfbais bersonol, gwreiddiol Tywysog Cymru. Daeth yn faner Tywysogaeth Cymru yn nheyrnasiad Llywelyn Fawr. Llewod coch drithroed (passant) yn y corneli chwith uchaf a de gwaelod ar faes melyn gyda'r lliwiau wedi eu cyfnewid yn y corneli eraill.
  c. 1223 – 11 Rhagfyr 1282 Arfbais bersonol Llywelyn ap Gruffudd Tri llew coch ar drithroed ar faes llwyd. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mabwysiadwyd yr arfbais gan dîm pêl-droed Lloegr!
  13g Baner Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn II. Y llewod yn sefyll ar drithroed (passant).
  14eg - 15g - Arfbais Glyndŵr Arfau Gwynedd: llewod yn sefyll ar undroed (regardant), gydag arfau Owain Lawgoch ac Owain Glyndŵr
  1100 - 1170 Arfbais Owain Gwynedd Tri eryr aur ar faes gwyrdd. Roedd yr arfbais hon hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ddisgynyddion Owain sef y teulu Anwyl o Dywyn.
  c.1055–1137 Arfbais bersonol Gruffudd ap Cynan Tri llew llwyd ar drithroed (passant), ar faes coch.

Arfbeisiau Teyrnasoedd CymruGolygu

Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  c. 1200 - heddiw Arfbais Teyrnas Gwynedd ac arfbais draddodiadol Aberffraw a Llywelyn Fawr. Llewod coch drithroed (passant) yn y corneli chwith uchaf a de gwaelod ar faes melyn gyda'r lliwiau wedi eu cyfnewid yn y corneli eraill.
  ? Teyrnas Powys ac yn ddiweddarach: Powys Wenwynwyn. Yn draddodiadol, hon oedd arfbais Llŷs Mathrafal. Llew coch tywyll yn sefyll ar undroed (regardant), ar gefndir melyn.
  1191-1236 Arfbais Powys Fadog sef y rhan ogleddol o Deyrnas Powys; yn wreiddiol: arfbais Madog ap Gruffydd Maelor. Argent, a lion Sable armed and langed Gules. Llew du yn sefyll ar undroed (regardant), ar gefndir gwyn.
  ? Cysylltir yr arfbais hon gyda Theyrnas Deheubarth. Llew aur yn sefyll ar undroed (regardant), ar gefndir coch, gydag ymyl pigog, melyn.
  ? Arfbais Teyrnas Gwent Hanner chwith glas, hanner dde yn ddu, gyda thair Fleurs-de-Lis aur.
  ? Teyrnas Rhwng Gwy a Hafren gan gynnwys: Maelienydd, Elfael, Ceri, Gwerthrynion, Cwmwd Deuddwr a Buellt). Arfbais Elystan Glodrydd, sylfaenydd 5ed Llinach Frenhinol Cymru. Gules, a lion rampant regardant Or.
  ? Arfbais Teyrnas Ceredigion Llew aur yn sefyll ar undroed (regardant) yn edrych yn ôl, ar gefndir gwyn.
  o 1045 ymlaen Arfbais Teyrnas Morgannwg a'u sefydlydd, sef Iestyn ap Gwrgant. Tri chevronels argent gwyn ar faes coch.
  hyd at 920 Arfbais Teyrnas Dyfed Llew aur yn sefyll ar undroed (regardant), gyda phedwar rhosyn aur o'i ddeutu, ar gefndir glas.

Pymtheg Llwyth GwyneddGolygu

Mae'r arfbeisiau canlynol i'w gweld mewn ystafell arbennig yn Erddig wedi'u creu ar gyfer perchennog y tŷ, Philip Yorke (1743 - 1804) a oedd hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi llyfr ar arfbeisiau Cymru.[1][2]

Unigolion eraillGolygu

Baner Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  c. 1320 - 1380 Arfbais Ifor ap Llywelyn (Ifor Hael) Tri tharw du ar gefndir gwyn
  ? Arglwyddes Crogen Llew du ar ei sefyll ar gefndir gwyn
  6g Arfbais Brochwel Ysgithrog, Teyrnas Powys Tri pen ceffyl arian ar gefndir du.
  diwedd y 12ed ganrif a dechrau'r 13 ganrif Arfau Gwenwynwyn ab Owain Pawen goch ar gefndir melyn.
  dechrau'r 12ed ganrif Arfau Iarll Penfro Tri llew gwyn ar untroed ar gefndir glas (chwith) a coch (dde).
  1160 – 1191 Arfbais Gruffudd Maelor I Llew du ar gefndir gwyn.
  1802 – 1896 Arfbais Arglwyddes Llanofer Gweler yma am ddisgrifiad llawn.
  1820 – 9 Mai 1885 Arfbais Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig Gweler yma am ddisgrifiad llawn.
  ? Arfau Hywel ap Meurig, Arglwydd Naddau Llew glas ar gefndir melyn
  12g? Arfau Hywel o Gaerleon
(Hywel ap Iorwerth g. 1130?)
Tri chastell gwyn ar gefndir coch
  ? Arfau Llywelyn ap Gwilym 5 lleuad ar groes melyn ar gefndir glas a choch
  ganwyd tua 1018 Arfau Llewelyn Eurdorchog (Aurdorchog) ap COEL Arglwydd Iâl Llew melyn ar ei sefyll ar gefndir glas
  13g Arfau Llywelyn ap Ifor, Arglwydd Sanclêr a Gwynfe; tad Ifor Hael Draig ddu ar ei sefyll ar gefndir gwinau

Arfbeisiau Saeson a Normaniaid yng NghymruGolygu

Yr Eglwys yng NghymruGolygu

SiroeddGolygu

Arfbais Dyddiad Defnydd Disgrifiad
  Mawrth 2014 Baner Sir Fôn Tri llew aur ar ddwy goes, ar gefndir coch gyda chevronel aur
  2012 Tarian Sir Gaernarfon Tair eryr aur mewn rhes ar gefndir gwyrdd.
  Heb ei chofrestru Tarian Ceredigion Llew aur ar ddwy goes, ar gefndir du.
  2013 Tarian De Morgannwg Tair chevronel wen ar gefndir coch
  ? Tarian Sir Forgannwg (traddodiadol) Tair chevron goch ar gefndir melyn a thair rhosyn coch.
  2015 Tarian Sir Feirionnydd Tair gafr arian ar ddwy goes, gyda haul aur ar gefndir glas.
  2011 Tarian Sir Fynwy Tair Fleur-de-Lis aur ar gefndir glas a du.
  Heb ei chofrestru Tarian Sir Drefaldwyn Tri phen mul arian ar gefndir du.
  2015 Tarian Sir y Fflint Croes ddu arf gefndir arian gyda phedwar Brân Goesgoch, un ym mhob cornel.
  1988 Tarian Sir Benfro Croes aur ar gefndir glas, gyda rhosyn Tuduraidd coch a gwyn yn y canol.
  - Tarian Sir Faesyfed Pen baedd ar gefndir glas a melyn (streips llorweddol).
  - Tarian Sir Clwyd Llew du ar ddwy goes, gyda dwy streipen donnog uwch ei ben a dwy frân uwch y rhain.
  - Tarian Ddir Ddinbych Llew du ar ddwy goes; uwch ei ben ceir dwy streipen las a hanner
  - Tarian Sir Gaerfyrddin Dau lew melyn ar gefndir coch, gyferbyn â'i gilydd a dwy ddraig goch ar gefndir melyn gyferbyn â'i gilydd.
  - Tarian Sir Dyfed Tri llew melyn ym mhob cornel ar gefndiroedd gwahanol: du, coch a glas.
  hyd at 1996 Tarian Gwynedd Gafr wen ar gefndir glas ac uwch ei phen, ceir dau lew yn sefyll ac un yn y canol ar ddwy goes.

ArallGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. The Royal Tribes of Wales, Philip Yorke (1743 ~1804) (cyhoeddwyd yn 1887 yn Wrecsam)
  2. A Pedigree of the Royal Tribes of Wales, Roderick D. Davies (1999); gweler fersiwn ar-lein ar wefan archive.org: yma

Dolennau allanolGolygu