Tomos o Acwin

brawd Dominicaidd Eidalaidd, athronydd, offeiriad Catholig, a Doethur yn yr Eglwys (1225-1274)
(Ailgyfeiriad o Thomas Aquinas)

Offeiriad, athronydd, diwinydd a sant o'r Eidal oedd Thomas Aquinas, O.P. (hefyd Thomas o Aquin neu Acwin neu Aquino; c. 1225 - 7 Mawrth 1274). Oherwydd ei amlygrwydd fel diwinydd, adwaenir ef hefyd fel y Doctor Angelicus, Doctor Universalis a Doctor Communis. Ystyria'r Eglwys Gatholig ef fel yr athro pwysicaf i'r rhai sy'n astudio i fynd yn offeiriaid. Mae'n fwyaf enwog am ei weithiau Summa Theologica a Summa Contra Gentiles. Ef hefyd ysgrifennodd yr emyn Sacris Solemniis sy'n cynnwys Bara Angylion Duw.

Tomos o Acwin
Ganwyd1225 Edit this on Wikidata
Roccasecca Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mawrth 1274 Edit this on Wikidata
Abaty Fossanova Edit this on Wikidata
Man preswylAquino Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Paris
  • Prifysgol Napoli Federico II Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, athro cadeiriol, offeiriad Catholig, athronydd, llenor, diwinydd Catholig, ffrier, theology teacher Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Paris Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSumma Theologica, Summa contra Gentiles, De regimine principum, Quinque viae Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadBoethius, Maimonides, Cicero, Al-Kindi, Johannes Scotus Eriugena, Averroes, Anselm o Gaergaint, Albertus Magnus, Avicenna, Awstin o Hippo, Platon, Aristoteles, yr Apostol Paul, Al-Ghazali, Pab Grigor I Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl28 Ionawr, 7 Mawrth, Catholigiaeth Edit this on Wikidata
MudiadTomistiaeth, Rhyfel cyfiawn, Ysgolaeth Edit this on Wikidata
TadLandulphe d'Aquino Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Aquinas yng nghastell Roccasecca yn Nheyrnas Sicilia yn yr hyn sy'n awr yn Regione Lazio. Roedd o deulu o uchel dras, ei dad, Landulf, yn Gownt a'i fam yn perthyn i linach yr Hohenstaufen. Roedd ei ewythr, Sinibald, yn abad abaty Monte Cassino, a bwriad y teulu oedd i Thomas ei olynu.

Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Napoli, lle daeth dan ddylanwad Urdd y Dominiciaid. Roedd ei delu yn anfodlon iawn ar hyn, gan ei garcharu am flwyddyn, ond wedi i'r Pab gymeryd rhan yn y mater, rhyddhawyd ef ac ymunodd a'r Urdd. Bu'n astudio yn ysgol y Dominiciaid yng Nghwlen dan Albertus Magnus, yna symudodd gydag Albertus i Brifysgol Paris. Daeth yn ddarlithydd yng Nghwlen yn 1248, a dechreuodd ysgrifennu. Bu'n darlithio ym Mharis, Rhufain a dinasoedd eraill.

Cyfeiriadau

golygu