Rhif 55, Stryt yr Hôb, Wrecsam

adeilad yn Wrecsam

Adeilad hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Rhif 55, Stryt yr Hôb (hen adeilad y National Westminster Bank).

Lleoliad

golygu

Mae Rhif 55 yn sefyll ar ochr ddwyreiniol Stryt yr Hôb (Saesneg: Hope Street) yng nghalon fasnachol Wrecsam, ar gornel Stryt y Banc, rhwng dau adeilad eiconig arall, sef tafarndy'r Talbot a'r Arcêd Ganolog.

Codwyd yr adeilad yn 1876 i gynllun gan y pensaer John Gibson, ar gyfer y National Provincial Bank (roedd y safle wedi cael ei defnyddio gan y banc ers 1849). [1] Yn 1968, unodd y National Provincial Bank â Westminster Bank, gan greu'r National Westminster Bank. [2] Mae Rhif 55 Stryt yr Hôb yn cael ei ddefnyddio bellach gan fanc y Halifax.

Disgrifiad

golygu

Mae'r National Westminster Bank yn adeilad dwy lawr yn yr arddull Eidalaidd. Mae gan yr adeilad ffasâd o feini nadd a mynedfa drawiadol gyda cholofnau Toscanaidd. [1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "National Westminster Bank, Rhosddu, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 16 Chwefror 2023.
  2. "National Westminster Bank plc / NatWest Group Heritage Hub". natwestgroup.com. Cyrchwyd 16 Chwefror 2023.