Stryt y Banc, Wrecsam
Lôn gul yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, gartref i nifer o siopau bach annibynnol a chaffis, yw Stryt y Banc (“Bank Street”).
Lleoliad
golyguMae Stryt y Banc yn cysylltu Stryt yr Hôb, un o brif strydoedd masnachol y ddinas, â Stryt Henblas, sy'n parhau wrth ochr y Farchnad Gyffredinol i Stryt Caer. Mae Stryt y Banc yn cwrdd â Stryt Henblas o flaen prif fynedfa'r Farchnad Gyffredinol a mynedfa gefn Marchnad y Cigyddion, yng nghalon ardal fasnachol hanesyddol y ddinas.
Hanes
golyguEnw gwreiddiol y stryd oedd Kenrick Street, ond cafodd yr enw ei newid yn ystod y 19eg ganrif.[1] Mae'r stryd wedi llwyddo i gadw ei bwrpas traddodiadol.
Disgrifiad
golyguLôn gul o gymeriad canoloesol yw Stryt y Banc. gyda adeiladau hanesyddol ar raddfa fechan a blaen siopau bach.[2] Mae’r rhan hon o’r dref yn gartref i fusnesau, siopau annibynnol a chaffis.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "John and Jane Grant of Bank Street, Wrexham". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-13. Cyrchwyd 22 June 2022.
- ↑ "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 22 June 2022.