Tafarndy'r Talbot, Wrecsam

tafarn rhestredig Gradd II yn Offa, Wrecsam

Adeilad neo-Duduraidd rhestredig Gradd II[1] yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, wedi'i ddylunio yn wreiddiol fel tafarndy a siopau, yw Tafarndy'r Talbot (Saesneg: Talbot Hotel).

Tafarndy'r Talbot, Wrecsam
Mathtafarn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam
SirWrecsam
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr83 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.045988°N 2.993738°W Edit this on Wikidata
Cod postLL11 1AP Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Lleoliad golygu

Mae gan y Talbot le amlwg yng nghanol Wrecsam ar y groesffordd rhwng Stryt yr Hôb a Stryt y Syfwr ym mhrif ardal fasnachol y ddinas.

Hanes golygu

Adeiladwyd y tafarndy yn 1904-1905 yn yr arddull neo-Duduraidd ar sail cynllun John H. Davies & Son, Caer,[2] i gymryd lle hen dafarn ar yr un safle.[3]

Disgrifiad golygu

Dyluniwyd prif ran yr adeilad i sefyll ar gornel Stryt yr Hôb a Stryt y Syrfwr, sydd yn esbonio ei siâp anarferol. Mae ganddo do coch amlonglog, waliau sy'n hanner pren a phaneli terracotta.[1] Mae adain ychwanegol i'r adeilad yn yr un dull, sy'n estyn ar hyd Stryt y Syfwr.[2]

Cofrestrwyd y Talbot yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru â'r rhif NPRN 301218.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 21 June 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Talbot Hotel Public House; 48 & 49 Hope Street, Wrexham". Coflein. Cyrchwyd 21 June 2022.
  3. "Nos 1-3 Queen Street, Clwyd, Rhosddu, Wrexham". Cyrchwyd 21 June 2022.


Oriel golygu