Rhif naturiol

(Ailgyfeiriad o Rhifau naturiol)

Mewn mathemateg, elfen o'r set {1, 2, 3, ...} (h.y. y cyfanrifau positif) yw rhif naturiol. Mewn sawl cyd-destyn, ystyrir 0 yn rhif naturiol yn ogystal, a {0, 1, 2, 3, ...} (h.y. y cyfanrifau an-negatif) yw'r set o rifau naturiol wedyn. Y disgrifiad cyntaf, heb sero, yw'r un arferol mewn damcaniaeth rhifau, ond yr ail a ddefnyddir mewn rhesymeg fathemategol, damcaniaeth setiau a chyfrifiadureg.

Rhif naturiol
Enghraifft o'r canlynolmathematical term Edit this on Wikidata
Yn cynnwysnon-negative integer, positive integer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gellid defnyddio rhif naturiol at ddau bwrpas: i gyfri (e.e. "mae yna dair afal ar y bwrdd"), neu i drefnu ("hon yw trydedd ddinas fwyaf y wlad").

Mae damcaniaeth rhifau yn trafod priodweddau'r rhifau naturiol sy'n ymwneud â rhanadwyedd, dosraniad y rhifau cysefin er enghraifft. Trafodir problemau'n ymwneud â chyfri mewn cyfuniadeg.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: cyfuniadeg o'r Saesneg "combinatorics". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.