Pêr Denez
ysgrifennwr, Esperantydd, ieithydd (1921-2011)
(Ailgyfeiriad o Per Denez)
Awdur, ysgolhaig ac ieithydd o Lydaw oedd Pêr Denez (Ffrangeg: Pierre Denis; 3 Chwefror 1921 – 30 Gorffennaf 2011).[1] Mae ei weithiau yn cynnwys geiriadur Llydaweg ac astudiaethau ieithyddol ar yr iaith honno.
Pêr Denez | |
---|---|
Ffugenw | Per Denez |
Ganwyd | Pierre Joseph Albert Victor Denis 3 Chwefror 1921 Roazhon |
Bu farw | 30 Gorffennaf 2011 Rovelieg |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, ieithydd, Esperantydd |
Cyflogwr | |
Priod | Marcelle Stéphan |
Plant | Gwendal Denis |
Gwobr/au | Creu de Sant Jordi, Urdd y Carlwm, honorary doctor of the University of Wales, Q111193047, Premi Internacional Ramon Llull, Gwobr Imram |
Dechreuodd ddysgu Llydaweg tra'n dioddef o salwch difrifol pan oedd yn ei arddegau. Bu'n brwydro'n galed gan lwyddo ym 1981 i sefydlu cwrs gradd yn astudio dim ond Llydaweg (ac nid yn rhan o gwrs arall) am y tro cyntaf erioed.
Dysgodd Gymraeg a chafodd ei urddo yn aelod o Orsedd y Beirdd.
Roedd yn briod a'r awdur Frañseza Kervendal ac yn dad i'r bardd Gwendal Denez.
Llyfryddiaeth
golygu- Korf an den 1941.
- Kentelioù brezhoneg, Al Liamm, 1971
- Étude structurale d'un parler breton : Douarnenez, traethawd (3 rhan), Prifysgol Roazhon, 1977
- Glas evel daoulagad c'hlas ha ne oant ket ma re, Al Liamm 1979
- Geriadur brezhoneg Douarnenez, 4 vol., Mouladurioù Hor Yezh, 1980, 1981, 1985
- Hiroc'h eo an amzer eget ar vuhez, Mouladurioù Hor Yezh, 1981
- Evit an eil gwech, Mouladurioù Hor Yezh, 1982
- Mont war-raok gant ar brezhoneg, Mouladurioù Hor Yezh, 1987
- Eus un amzer 'zo bet, Mouladurioù Hor Yezh, 1992
- En tu all d'an douar ha d'an neñv, Mouladurioù Hor Yezh, 1993
- Yezh ha bro, Mouladurioù Hor Yezh, 1998
- Bretagne et peuples d'Europe, Mouladurioù Hor Yezh, 1999
- P'emañ ar mor o regel..., dastumad barzhonegoù, Skrid, Mouladurioù Hor Yezh, 2001
- Warc'hoazh e tarzho c'hoazh an deiz, danevelloù, Mouladurioù Hor Yezh, 2006
Yn y Gymraeg
golygu- Angerdd angheuol, Adran y Gymraeg, Aberystwyth
Rhestrir gwaith cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Llydaweg gan Per Denez ymhlith prif awduron Llydaw fel Roparz Hemon, Ronan Huon.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Stephens, Meic (2 Medi 2011). Per Denez: Writer and scholar who sought recognition for the Breton language and culture. The Independent. Adalwyd ar 19 Gorffennaf 2013.
- Gibson, Jacqueline (Hydref 2011). Per Denez (1921-2012), Rhifyn 585. Barn