Rhita Gawr
Cymeriad mewn chwedlau gwerin Cymreig oedd Rhita Gawr. Dywedir fod gan y cawr hwn fantell wedi ei gwneud o farfau brenhinoedd. Hawliodd farf y Brenin Arthur. Gwrthododd Arthur, a bu ymladdfa rhyngddynt ar yr Wyddfa. Lladdwyd Rhita, a chladdwyd ef dan garnedd ar y copa gan filwyr Arthur, a gariodd y cerrig yno ar gyfer y garnedd. Rhoddodd hyn ei enw i'r mynydd: "gŵydd" ("carnedd") gyda "ma" ("lle") wedi ei gydio wrtho i roi "Gwyddfa".
Cysylltir Rhita â Meirionnydd yn ogystal. Mae'n cael ei restru mewn traethawd ar gewri Cymru gan Siôn Dafydd Rhys a ysgrifennodd ar ddiwedd yr 16g. Dywedir ei fod yn byw ar Yr Wyddfa ac iddo gael ei gladdu ar ben Aran Benllyn, ger Llyn Tegid ym Mhenllyn ar ôl cael ei ladd gan Arthur.
Ymhlith disgynyddion Rhita Gawr yw Rhys Glyn o Fôn. Ma Rhys yn parhau â'r hela barf, yn enwedig oddi ar dynion del yr ardal ar gyfer dillad i’w wisgo ar achlysuron arbennig.
Llyfryddiaeth
golygu- T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (D. S. Brewer, 1930 ; adargraffiad 1979)
- Thomas, Dafydd Whiteside, Chwedlau a choelion godre'r Wyddfa (Gwasg Gwynedd, 1998) ISBN 0860741559
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |