Rhithdyb
Diffinnir rhithdyb (o rhith + tyb) yn gyffredinol fel cred anwir sefydlog a defnyddir y term mewn iaith bob dydd i ddisgrifio cred sydd naill ai'n anwir, ffansïol, neu sy'n tarddu o dwyll. Mewn seiciatreg, mae'r diffiniad o angenrheidrwydd yn fanylach gywir ac yn awgrymu bod y gred yn batholegol (sef o ganlyniad i afiechyd neu broses afiechydol). Fel patholeg mae'n amlwg yn wahanol i gred a seilir ar wybodaeth anwir neu anghyflawn neu ambell effaith canfyddiadol a elwir yn gywirach yn gyfarganfyddiad neu'n rhith.
Enghraifft o'r canlynol | psychopathological symptom, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | thought disorder |
Rhan o | fantasy |
Digwydd rhithdybiau yn nodweddiadol yng nghyd-destun afiechyd meddwl neu niwrolegol, er nad ydynt yng nghlwm wrth unrhyw afiechyd penodol ac maent wedi'u darganfod yng nghyd-destun nifer o gyflyrau patholegol (yn gorfforol a meddyliol). Pa fodd bynnag, maent o bwysigrwydd diagnostig arbennig ym maes anhwylderau seicotig, yn enwedig sgitsoffrenia[1] a mania ac iselder mewn episodau anhwylder deubegwn.[2]
Darllen pellach
golygu- Bell, V., Halligan, P.W. & Ellis, H. (2003) Beliefs about delusions. The Psychologist, 16(8), 418-423. Testun llawn Archifwyd 2006-02-13 yn y Peiriant Wayback
- Blackwood NJ, Howard RJ, Bentall RP, Murray RM. (2001) Cognitive neuropsychiatric models of persecutory delusions. American Journal of Psychiatry, 158 (4), 527-39. Testun llawn Archifwyd 2008-07-25 yn y Peiriant Wayback
- Coltheart, M. & Davies, M. (2000) (Eds.) Pathologies of belief. Oxford: Blackwell. ISBN 0-631-22136-0
- Persaud, R. (2003) From the Edge of the Couch: Bizarre Psychiatric Cases and What They Teach Us About Ourselves. Bantam. ISBN 0-553-81346-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Sgitsoffrenia: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
- ↑ Anhwylder affeithiol deubegwn: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.