Byd afreal wedi'i gynhyrchuu gan gyfrifiadur ydy rhithwir neu 'rhithrealiti'[1] (Saesneg: virtual reality) a ddechreuwyd oddeutu'r 1980au. Caiff ei ddefnyddio i roi profiad o lefydd gwahanol i'r defnyddiwr e.e. Second Life neu goden-hedfan ble mae'r defnyddiwr yn mynd drwy'r broses o hedfan awyren (efelychiad) oddi fewn i goden neu mewn ystafell bwrpasol. Ar hyn o bryd, profiad i'r llygad a'r glust ydy rhithwir, er fod ambell synnwyr arall yn dechrau ymddangos e.e. cryndod ac arogl. Gelwir y bodau digidol yn avatar.

Rhithwir
Mathefelychiad, realiti estynedig, lle rhithwir Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebbywyd go iawn Edit this on Wikidata
Rhan obydysawd rhithwir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gogls Pop Optics gan y cwmni Ames; bellach yn amgueddfa Dulles Annex of National Air and Space Museum/Sefydliad Smithsonian

Datblygiad o rithwir (a dalfyrir yn Saesneg yn A.R.) ydy gor-realaeth (Saesneg: Augmented Reality) sy'n brofiad byw o'r byd go-iawn ond fod haen o wybodaeth digidol i'w weld yn ogystal e.e. meddalwedd Wikitude ar ffôn clyfar fel iPhone gyda marciwr yn dangos gwybodaeth am y gwrthrychau a welir ar gamera'r ffôn.

Mae marchnad AR / VR eisoes wedi dod yn farchnad biliwn doler a rhagwelir ei fod yn parhau i dyfu ymhell y tu hwnt i farchnad $ 120 biliwn o fewn ychydig flynyddoedd.[2]

Ffilmiau

golygu
  • Yn 1999 lansiwyd The Matrix i'r sgrin fawr, ffilm a oedd yn ymchwil dychmygol o hyd a lled byd rhithwir, neu rithwir dychmygol (Simulated Reality) wedi'i greu gan beiriannau deallus.[3]

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
  • Mixed Reality Scale - Milgram and Kishino’s (1994) Virtuality Continuum paraphrase with examples
  Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato