Mae gor-realaeth neu realiti estynedig[1] (Saesneg: Augmented Reality) yn ddatblygiad ar rhithwirionedd (virtual reality) ac yn ddau gymhwysiad neu brofiad cwbwl groes i'w gilydd. Mae meddalwedd rhithwir yn ceisio ail-greu'r byd go-iawn ond mae meddalwedd gorwir yn dechrau gyda'r byd go iawn (e.e. llun byw drwy gamera) ac yn rhoi haen o wybodaeth wedi'i gynhyrchu gan gyfrifiadur ar ei ben. Enghraifft o hyn ydy ffenest peilot awyren, ble ceir haen o wybodaeth yn y gwydr ar ben yr olygfa go-iawn a welir drwy'r gwydr. Cysylltir realiti estynedig â chydsyniad mwy cyffredinol o'r enw realiti-gyfryngol.

Rhodri ap Dyfrig o S4C yn dangos ap AR yn 2018.

Mae'n ofynnol fod yn y cyfarpar neu'r teclyn a ddefnyddir elfennau megis GPS, cwmpawd a chamera. Fel hyn, mae'r teclyn yn gwybod ble ac i ba gyfeiriad mae'n "edrych".

Porwr Byd Wikitude yn chwilio am wybodaeth ar adeiladau ar iPhone.

Ffonau clyfar gor-real golygu

Mae'r ffonau clyfar mwyaf diweddar yn caniatáu i chi weld gwybodaeth gorwir fel haen ar y llun a welir yn y camera.

Mae'r meddalwedd ganlynol[2] yn caniatáu i'r defnyddiwr weld a darllen erthyglau Wicipedia:

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • Mixed Reality Scale - Milgram and Kishino’s (1994) Virtuality Continuum paraphrase with examples
  Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato