Wikitude
Meddalwedd gor-real ydy Wikitude wedi'i datblygu gan gwmni o Awstria ar gyfer teclynau symudol megis ffonau clyfar. Enw gwreiddiol y cwmni oedd Mobilizy GmbH. Cafodd y feddalwedd ei ryddhau'n wreiddiol yn Hydref 2008. Mae'n dangos gwybodaeth mewn teclyn megis y camera ffôn ac yn rhoi haen ychwanegol o wybodaeth ar y llun, yn unol a dull arferol gor-realaeth drwy godau QR.
Enghraifft o'r canlynol | meddalwedd |
---|---|
Gwefan | http://www.wikitude.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r meddalwedd ganlynol[1] yn caniatau i'r defnyddiwr weld gwybodaeth ar erthyglau Wicipedia:
- Wikitude
- Layars
- Cyclopedia
Mae unrhyw erthygl ar Wicipedia sy'n cynnwys llinell syml o gyfesurynnau XY yn cael eu dangos ar y ffôn. Llinell fel hon:
- {{coord|51.01234|-1.56789|type:landmark_region:GB|display=rhowch y teitl yn fama}}
ble mae'r ddau rif cyntaf yn y linell yn gyfesurynnau XY. O wneud hyn caiff yr erthyglau hefyd eu codi ar Wikitude a mapiau digidol.