Rhydderch Jones
dramodydd, cynhyrchydd teledu (1935-1987)
Dramodydd a chynhyrchydd teledu oedd Rhydderch Jones (1935 – 4 Tachwedd 1987). Roedd yn un o gyd-ysgrifenwyr y gyfres gomedi Fo a Fe ar BBC Cymru ac yn gyfaill i'r digrifwr Ryan Davies, un o sêr y gyfres honno. Mae ei waith fel dramodydd yn cynnwys dramâu llwyfan, radio a theledu.[1]
Rhydderch Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1935 Aberllefenni |
Bu farw | 4 Tachwedd 1987 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | dramodydd, cynhyrchydd teledu |
Roedd yn frodor o Aberllefenni, Meirionnydd. Hyfforddodd fel athro yng Ngholeg y Normal, Bangor. Wedi cyfnod byr o ddysgu, yn 1965 ymunodd ag adran adloniant BBC Cymru yng Nghaerdydd o dan y pennaeth Meredydd Evans.[2]
Cyd-ysgrifennodd y gomedi Hafod Henri gyda Gwenlyn Parry.
Llyfryddiaeth golygu
Dramâu golygu
- Roedd Catarina o Gwmpas Ddoe (1974)
- Mewn Tri Chyfrwng (1979).
Cofiant golygu
- Cofiant Ryan (1979). Cofiant Ryan Davies.
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
Dolenni allanol golygu
- Rhydderch Jones ar wefan Internet Movie Database