Rhyfel Cartref Yemen (2015–presennol)

Mae Rhyfel Cartref Yemen yn wrthdaro a ddechreuodd yn 2015 rhwng dwy garfan: y llywodraeth sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, dan arweiniad Abdrabbuh Mansur Hadi, a mudiad arfog Houthi, ynghyd â'u cefnogwyr a'u cynghreiriaid. Mae'r ddwy garfan yn honni eu bod yn ffurfio llywodraeth swyddogol Yemen.[1] Mae lluoedd Houthi sy'n rheoli'r brifddinas Sanaʽa, ac sy'n gysylltiedig â lluoedd sy'n deyrngar i'r cyn-arlywydd Ali Abdullah Saleh, wedi gwrthdaro â lluoedd ffyddlon i lywodraeth Abdrabbuh Mansur Hadi, sydd wedi'u lleoli yn Aden . Mae Al-Qaeda ym Mhenrhyn Arabia a Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant hefyd wedi gweithredu ymosodiadau, gydag Al-Qaeda yn rheoli darnau o diriogaeth yn y cefnwlad, ac ar hyd rhannau o'r arfordir.[2]

Sanaa, prifddinas Yemen, ar ôl cyrchoedd awyr, 9 Hydref 2015

Ar 21 Mawrth 2015, ar ôl cymryd rheolaeth o Sanaʽa a llywodraeth Yemen, cyhoeddodd Prif Bwyllgor y Chwyldro dan arweiniad Houthi eu bod yn cynnal ymgyrch i ddymchwel llywodraeth Hadi a sefydlu eu rheolaeth drwy yrru i mewn i daleithiau'r de.[3] Dechreuodd cyrch yr Houthi, ynghyd â lluoedd milwrol a oedd yn deyrngar i Saleh, y diwrnod canlynol gydag ymladd yn Lahij. Erbyn 25 Mawrth, roedd Lahij dan reolaeth yr Houthis ac roedden nhw wedi cyrraedd cyrion Aden, sedd grym llywodraeth Hadi;[4] penderfynodd Hadi ffoi o'r wlad yr un diwrnod.[5][6] Ar yr un pryd, lawnsiodd clymblaid dan arweiniad Saudi Arabia ymosodiadau milwrol gan ddefnyddio cyrchoedd awyr i adfer hen lywodraeth Yemen. Rhoddodd yr Unol Daleithiau gefnogaeth ymchwil a logisteg i'r ymgyrch.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig a ffynonellau eraill, lladdwyd 8,670–13,600 o bobl yn Yemen rhwng mis Mawrth 2015 a mis Rhagfyr 2017, gan gynnwys mwy na 5,200 o sifiliaid. Yn ogystal â hynny, amcangyfrifir bod newyn oherwydd y rhyfel wedi arwain at fwy na 50,000 o farwolaethau.[7][8][9] Mae'r gwrthdaro wedi cael ei ystyried yn eang fel estyniad i'r gwrthdaro rhwng Iran a Saudi Arabia ac fel ffordd o frwydro yn erbyn dylanwad Iran yn y rhanbarth.[10][11] Yn 2018, rhybuddiodd y Cenhedloedd Unedig fod 13 miliwn o sifiliaid Yemen yn wynebu newyn, ac y gallai fod yn y "newyn gwaethaf a welodd y byd ers 100 mlynedd."[12]

Mae'r gymuned ryngwladol wedi condemnio'r ymgyrch fomio dan arweiniad Saudi Arabia, sydd wedi cynnwys bomio ardaloedd sifil.[13] Yn ôl Prosiect Data Yemen, cyhoeddwyd ym Mawrth 2019 bod yr ymgyrch fomio wedi lladd neu anafu 17,729 o sifiliaid.[14] Er gwaethaf hyn, nid yw'r argyfwng wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau rhyngwladol o'i gymharu â rhyfel cartref Syria.[15][16]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Orkaby, Asher (25 March 2015). "Houthi Who?". Foreign Affairs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 March 2015. Cyrchwyd 25 March 2015. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  2. "Yemen in Crisis". Council on Foreign Relations. 8 July 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 May 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Abdul-Aziz Oudah. "Yemen observer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 November 2015. Cyrchwyd 18 November 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Yemen's president flees Aden as rebels close in". The Toronto Star. 25 March 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2015. Cyrchwyd 25 March 2015. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  5. "Saudi Arabia: Yemen's President Hadi Arrives In Saudi Capital Riyadh". The Huffington Post. 26 March 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 March 2015. Cyrchwyd 26 March 2015. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  6. "Abed Rabbo Mansour Hadi, Yemen leader, flees country". CBS.CA. 25 March 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 March 2015. Cyrchwyd 26 March 2015. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  7. "Yemen war: Saudi-led air strike 'kills 26 at Saada market'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 November 2017. Cyrchwyd 1 November 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "20 Killed in Saudi Airstrike in Yemen". Cyrchwyd 31 December 2017.
  9. Press, Associated. "50,000 children in Yemen have died of starvation and disease so far this year, monitoring group says". chicagotribune.com. Cyrchwyd 2018-07-07.
  10. https://www.bbc.com/news/world-middle-east-29319423
  11. https://www.theguardian.com/world/2018/nov/21/who-are-the-houthis-fighting-the-saudi-led-coalition-in-yemen
  12. "Yemen could be 'worst famine in 100 years'". BBC. 15 October 2018. Cyrchwyd 15 October 2018.
  13. Saudi Arabia and al-Qaeda Unite in Yemen Error in Webarchive template: URl gwag., Huffington Post, "Despite the international community's condemnation of Saudi Arabia's bombing of civilian areas in Yemen, ... "
  14. Raghavan, Sudarsan (27 March 2019). "Airstrike by Saudi-led coalition said to hit near Yemeni hospital, killing 8, including 5 children". The Washington Post. Cyrchwyd 31 March 2019.
  15. https://news.sky.com/feature/yemen-faces-of-the-worlds-forgotten-war-11516374
  16. https://www.amnesty.org/en/latest/news/2015/09/yemen-the-forgotten-war/