Rhyfel Gogledd Orllewin Pacistan

(Ailgyfeiriad o Rhyfel Wasiristan)

Gwrthdaro arfog yw Rhyfel Gogledd Orllewin Pacistan rhwng Byddin Pacistan a gwrthryfelwyr Islamig sy'n cynnwys aelodau o lwythau lleol, Taliban Pacistan a'i gynghreiriaid ac ymladdwyr o'r tu allan i Bacistan ei hun. Dechreuodd yn Wasiristan yn gyda'r hwn a elwir yn 'Rhyfel Wasiristan' ac ers hynny mae wedi ymledu ar draws gogledd-orllewin Pacistan, yn bennaf yn nhalaith Khyber Pakhtunkhwa, gyda'r gwrthryfelwyr yn rheoli ardaloedd sylweddol sy'n cynnwys Dir a dyffryn Swat; gorwedd yr olaf llai na 100 milltir o'r brifddinas, Islamabad. Yn Islamabad ei hun mae dylanwad y Taliban i'w weld yn y ffaith fod sawl canolfan chwaraeon ac ysgol lle dysgir merched wedi cael ei gorfodi i gau ganddynt.[1]

Milwyr Byddin Pacistan ar ôl "clirio pentref o wrthryfelwyr" ym Malakand.

Mae'r rhyfel yn cael ei bortreadu gan rai fel rhan o'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth gyda honiadau fod elfennau o Al-Qaeda yn gweithio gyda'r Taliban a gwrpiau eraill. Erbyn Hydref 2008 roedd tua 6,000 o wrthryfelwyr a milwyr Pacistanaidd wedi cael eu lladd.[2] Mae'r nifer a laddwyd ar ochr y gwrthryfelwyr a'r colledion ymysg y bobl gyffredin yn anhysbys, ond roedd hyd at 500,000 o bobl wedi gorfod ffoi o'u cartrefi erbyn Mai 2009 yn ôl y Groes Goch.[3] Ar y 9fed o Fai 2009, wrth i chwech fataliwn ychwanegol baratoi i ymuno yn y rhyfel, cynhaliwyd cyfarfod arbennig o Gabinet Pacistan; cyhoeddodd y Prif Weinidog Yousaf Raza Gillani fod y rhyfel "yn frwydr dros oroesiad Pacistan a dyfodol ei phobl".[4]

Rhyfel Wasiristan

golygu
 
Milwyr Pacistanaidd yn gwarchod bwlch mynydd yn Wasiristan.

Dechreuodd y gwrthdaro gyda 'rhyfel Wasiristan' (2004–2006) a ddechreuodd yn 2004 pan dwysheuodd tensiynau yn tarddu o chwiliad Byddin Pacistan am aelodau al-Qaeda yn ardal fynyddig Wasiristan ym Mhacistan i fod yn wrthwynebiad arfog gan lwythi lleol. Bu gwrthdrawiadau rhwng lluoedd Pacistanaidd – wedi'u cynorthwyo'n aml gan fomio trachywiredd Americanaidd – a milwyr al-Qaeda, ar y cyd â gwrthryfelwyr lleol a lluoedd o blaid y Taleban. Gwelir y frwydr fel rhan o'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth, ac roedd cysylltiadau gyda gwrthryfel y Taleban yn Affganistan.

Ar 5 Medi 2006, cafodd ei gyhoeddi bod llywodraeth Pacistan a llwythi o blaid y Taleban wedi arwyddo cytundeb heddwch lle cytunodd y llwythi i alltudo milwyr tramor ac i ddarfod cyrchoedd traws-oror yn gyfnewid am bresenoldeb llai o aelodau o luoedd Pacistan.[5]

Malakand

golygu

Rhanbarth hanesyddol yw Malakand a leolir yn Khyber Pakhtunkhwa. Mae'n cynnwys tua traean o diriogaeth y dalaith ac yn cyfateb yn fras i'r hen Asiantaeth Malakand o gyfnod y Raj. Rhennir y rhanbarth yn sawl dosbarth ac ardal, yn cynnwys Dir, Swat, Buner, Shangla, Dosbarth Malakand, a Muhmand.

Ers 2007 mae rhan fawr o Falakand wedi dod dan reolaeth y gwrthryfelwyr Islamig Tehreek-e-Nafaz-e-Shariat-e-Mohammadi, cynghreiriaid y Taliban. Sefydlwyd cyfraith Sharia ym Malakand gan y Taliban a chadarnheuwyd hynny gan y ddeddf Nizam-e-Adl 2009, a basiwyd fel rhan o gytundeb rhwng y llywodraeth ganolog a'r gwrthryfelwyr, i wneud Sharia yn gyfreithlon ym Malakand.

Yn Ebrill a Mai 2009 gwelwyd ymladd difrifol rhwng Byddin Pacistan a'r Taliban a'u cefngowyr ar draws rhanbarth Malakand, yn enewdig yn Dir a Swat. Dros yr ardal gyfan roedd rhai cannoedd o filoedd o bobl wedi cael eu disodli gan yr ymladd ac roedd cyrffiw yn cael ei weithredu.[6]

Yn Swat, dosbarth a dyffryn i'r gogledd-orllewin o Islamabad, cipiodd y gwrthyfelwyr reolaeth yn 2006. Ar ôl i gadoediad tri mis rhyngddynt a llywodraeth y wlad fethu ac o dan bwysau gan yr Unol Daleithiau, ymosododd Byddin Pacistan ar Dir a Swat yn Ebrill a Mai 2009. Dwyshaodd yr ymladd gyda'r fyddin yn ceisio disodli'r Taliban o Swat. Ar 7 Mai 2009, ar ôl dychwelyd o gwrdd gyda'r Arlywydd Barack Obama yn Washington, gorchmynodd Gillani i'r Fyddin "i ddileu'r tefysgwyr" yn Swat.[7] Mae'r Unol Daleithiau yn pryderu y bydd y Taliban yn llwyddo i greu digon o anhrefn ym Mhacistan fel y bydd y llywodraeth ganolog yn cwympo gan greu perygl y gallai'r Islamiaid gipio rhai o arfau niwcliar Pacistan.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bacistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.