Yousaf Raza Gillani
Prif Weinidog Pakistan oedd Yousaf Raza Gillani (ganed 9 Mehefin, 1952). Roedd yn cynrychioli Plaid Pobl Pakistan (PPP), plaid y diweddar Benazir Bhutto. Roedd yn Brif Weinidog rhwng 25 Mawrth 2008 a 26 Ebrill 2012, pan olynodd Muhammad Mian Soomro o Cynghrair Mwslimaidd Pacistan. Gillani oedd 24ain Prif Weinidog Pacistan.
Yousaf Raza Gillani | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
9 Mehefin 1952 ![]() Karachi ![]() |
Dinasyddiaeth |
Pacistan ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
newyddiadurwr, gwleidydd ![]() |
Swydd |
Prif Weinidog Pakistan, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Pacistan ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Pobl Pacistan ![]() |
Ei weinidogaethGolygu
Un o'r problemau mwyaf y bu'n rhaid i Gillani wynebu pan gymerodd drosodd oedd gwrthryfel cynyddol fwy agored Taliban Pacistan. Gyda'r Taliban a'u cynghreiriaid yn rheoli ardal dyffryn Swat, sy'n cyrraedd o fewn 100 milltir o Islamabad, a rhannau eraill o'r NWFP, daeth Gillani dan bwysau aruthrol gan Barack Obama, Arlywydd UDA, i gymryd camrau llym. Ar ddiwedd mis Ebrill 2009 dechreuodd ymladd rhwng Byddin Pacistan a gwrthryfelwyr yn nosbarthau Dir a Swat. Dwyshaodd yr ymladd gyda'r fyddin yn ceisio disodli'r Taliban o Swat. Ar 7 Mai 2009 gorchmynodd Gillani i'r Fyddin "i ddileu'r tefysgwyr" yn Swat.[1]