Rhyfel y Peloponnesos
(Ailgyfeiriad o Rhyfel y Peloponesos)
Ymladdwyd Rhyfel y Peloponnesos yng Ngwlad Groeg rhwng 431 CC a 404 CC, rhwng Athen a'i chyngheiriaid a Chynghrair y Peloponnesos dan arweiniad Sparta. Diweddodd y rhyfel gydag Athen yn ildio, ac yn colli ei hymerodraeth.
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel |
---|---|
Dyddiad | 431 |
Rhan o | Peloponnesian wars |
Dechreuwyd | 431 CC |
Daeth i ben | 25 Ebrill 404 CC |
Lleoliad | Groeg yr Henfyd, Môr Aegeaidd, Asia Leiaf, Sicily, Sisili |
Yn cynnwys | Archidamian War, Sicilian Expedition, Decelean War |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn gyffredinol, rhennir y rhyfel yn dair rhan gan haneswyr:
- Rhyfel Archidamos, wedi ei enwi ar ôl y brenin a chadfridog Archidamos II o Sparta, o 431 CC hyd 421 CC.
- Heddwch Nikias, o 421 CC hyd tua 413 CC.
- Rhyfel Dekeleia-Ionia, o tua 413 CC hyd nes i Athen ildio yn 404 CC.
Cyn y rhyfel, Athen oedd y grym mwyaf yng Ngwlad Groeg; wedi'r rhyfel, cymerwyd ei lle gan Sparta am gyfnod, hyd nes iddi hithau gael ei gorchfygu gan Thebai ym Mrwydr Leuctra (371 CC). Fodd bynnag, roedd y colledion yn drwm ar y ddwy ochr, ac ystyrir fod y rhyfel wedi rhoi diwedd ar oes aur Groeg. Ceir hanes y rhyfel yn bennaf yng ngwaith yr hanesydd Thucydides.