Cysyniad yw rhyngblethedd[1] neu ryngblethu[2] sy'n helpu i esbonio sut mae hunaniaethau cymdeithasol a gwleidyddol rhywun yn cyfuno i greu gwahanol lefelau o wahaniaethu a braint.[3] Cafodd y cysyniad ei greu yn 1989 gan Kimberlé Williams Crenshaw, a esboniodd fod ffactorau fel rhywedd, hil, dosbarth cymdeithasol, rhywioldeb ac anabledd yn rhyngblethu mewn unigolyn gan arwain at fathau gwahanol o wahaniaethu neu fraint. Er enghraifft, gallai hi fel menyw ddu wynebu gwahaniaethu nad yw menywod gwynion yn ei wynebu fel arfer, ac nad yw dynion duon yn ei wynebu fel arfer chwaith: mae ei hil a'i rhywedd yn rhyngblethu ac mae'r gwahaniaethu penodol mae hi'n ei wynebu yn deillio o hynny. Yn yr un modd, mae dynion yn fwy breintiedig na menywod ar y cyfan, a phobl wynion yn fwy breintiedig na phobl dduon; i ddynion gwynion, mae eu hil a'u rhywedd yn rhyngblethu i'w gwneud yn fwy breintiedig eto na dynion yn gyffredinol a phobl wynion yn gyffredinol.

Mae dadansoddiad rhyngblethol yn ystyried yr holl ffactorau sy'n berthnasol i unigolyn gyda'i gilydd, yn hytrach nag ystyried pob ffactor ar wahân.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Chwiliwch am derm, gair neu ymadrodd". LLYW.CYMRU. Cyrchwyd 2021-06-24.
  2. anarchwaethus (2016-12-08). "Beth yw "intersectionality" yn Gymraeg?". anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg. Cyrchwyd 2021-06-24.
  3. Runyan, Anne Sisson (2018). "What Is Intersectionality and Why Is It Important?". American Association of University Professors (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Mehefin 2021.