Erthygl am wahaniaethau rhwng dynion a merched yw hon. Mae'n bosibl eich bod yn chwilio am cenedl enwau (gramadeg).

Mae rhywedd yn cyfeirio at y gwahaniaethau rhwng dynion a menywod. Ym meysydd astudiaethau diwylliannol, astudiaethau rhywedd a gwyddorau cymdeithas mae rhywedd yn cyfeirio at wahaniaethau cymdeithasol yn hytrach na biolegol, sef rhyw. Am y rheswm hwn mae rhai yn gweld rhywedd fel lluniad cymdeithasol yn hytrach na ffenomen fiolegol. Hunaniaeth ryweddol yw'r modd y mae unigolyn yn teimlo naill ai'n wrywol neu'n fenywol, mewn ystyr ar wahân i'w ryw biolegol. Gall pobl a chanddynt hunaniaeth ryweddol sy'n teimlo'n anghymarus â'u rhyw corfforol uniaethu fel rhyngrywiol, rhyngryweddol neu un o nifer o hunaniaethau ar y continwwm trawsryweddol.

Y symbolau rhyweddol a ddefnyddir i ddynodi organeb fenywol (chwith) neu wrywol (dde), sy'n tarddu o symbolau seryddol Gwener a Mawrth yn y drefn honno.

Bioleg rhywedd golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cymdeithaseg rhywedd golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cred golygu

Mae rhywedd yn ymddangos mewn nifer o gysyniadau crefyddol ac ysbrydol ar draws y byd. Yn Nhaoiaeth, mae in ac iang yn cael eu hystyried yn fenywol a gwrywol yn y drefn honno. Yng Nghristnogaeth, disgrifir Duw yn wrywol, ond yr Eglwys yn fenywol.

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu