Rhys Gwesyn Jones

gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur (1826-1901)

Gweinidog ac awdur oedd Rhys Gwesyn Jones (4 Mai 18265 Medi 1901). Fe'i ganwyd ym Mhen-y-wern, Abergwesyn, Sir Frycheiniog.[1]

Rhys Gwesyn Jones
Ganwyd4 Mai 1826 Edit this on Wikidata
Abergwesyn Edit this on Wikidata
Bu farw5 Medi 1901 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Dechreuodd fel aelod o eglwys Moriah yn 1840 a dechreuodd bregethu yno yn 1844 cyn mynd i Goleg Aberhonddu yn 1847. Dechreuodd swydd fel gweinidog yn Rhaeadr Gwy yn 1851 cyn symud i Benybont-ar-Ogwr yn 1857 ac i Ferthyr Tudful dwy flynedd wedyn. Yn ystod y blynyddoedd yma ysgrifennodd erthyglau ar gyfer Y Beirniad, Y Diwygiwr a mwy. Yn Mai 1867 ymfudodd i Unol Daleithiau America er mwyn cymryd rheolaeth dros ddwy eglwys yn Utica, Efrog Newydd. Bu farw yn 1901 ar ôl salwch o rai misoedd.[2]

Y Beirniad

Priododd Ann Jones ar 4 Gorffennaf 1855 a chawsant wyth o blant.

Eglwys Moriah

Gwaith Ysgrifennedig golygu

  • Drych Y Prif Oesoedd (addasiad gan lyfr Theophilus Evans)
  • Caru, Priodi a Byw (1868)
  • Esboniwr y Dadguddiad; neu, Ddarlithiau esboniadoe ar Lyfr y Dadguddiad (1863)

Cyfeiriadau golygu

  1.  JONES, RHYS GWESYN (1826 - 1901), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig (1953).
  2. "Y PARCH. RHYS GWESYN JONES, ;'D.D.|1901-10-04|Y Celt - Welsh Newspapers". newspapers.library.wales. Cyrchwyd 2020-03-04.