Theophilus Evans

hanesydd a llenor

Hynafiaethydd o Gymro ac awdur y llyfr enwog Drych y Prif Oesoedd oedd Theophilus Evans (Chwefror 169311 Medi 1767). Ganwyd yng Nghwm-cou, Ceredigion, ger Castellnewydd Emlyn. Roedd ei fab-yng-nghyfraith Hugh Jones yn dad i Theophilus Jones, awdur A History of Brecknockshire (1805-1809).

Theophilus Evans
Ganwyd21 Chwefror 1693 Edit this on Wikidata
Cwm-cou, Llandygwydd Edit this on Wikidata
Bu farw11 Medi 1767 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghwm Cou, ar lan Afon Teifi. Fe'i urddwyd yn offeiriad yn 1718 a gwasanethodd mewn sawl plwyf yn yr hen Sir Frycheiniog am weddill ei oes (ac eithrio 1722-1728 pan fu yn Llandyfriog, Ceredigion). Roedd hyn yn cynnwys cyfnodau fel curad dan Moses Williams (Tefynnog, 1717-1722) ac fel ficer yn Llangamarch lle bu Williams Pantycelyn yn gurad iddo. Bu farw yn 1767.

Drych y Prif Oesoedd

golygu

Yn y gyfrol Drych y Prif Oesoedd (1716 a 1740), mae Theophilus yn rhoi hanes y Brythoniaid a'r Cymry hyd cwymp y tywysogion gan dynnu ar sawl ffynhonnell hynafiaethol, gan gynnwys Sieffre o Fynwy.

Yn 1703, cyhoeddodd y Llydäwr Paul Yves Pezron ei lyfr enwog Antiquité de la nation et de la langue des Celtes, autrement appelée Gaulois. Cafwyd cyfieithiad Saesneg yn 1706 fel Antiquities of Nations a argraffwyd sawl gwaith ar ôl hynny. Dyma un o brif ffynonellau Theophilus Evans, sy'n cyfeirio sawl gwaith at Pezron gydag edmygedd mawr. Yn ôl damcaniaeth Pezron, y Gymraeg oedd iaith Gomer fab Jaffeth ac roedd y Cymry a'r Llydawyr yn ddisgynyddion iddo. Honodd hefyd fod y Groegiaid gynt yn adnabod y "Gomeriaid" fel y Titaniaid.[1] Ar sail gwaith Pezron mae awdur y Drych yn cyhoeddi'n groyw, ar ôl adrodd hanes cymysgu'r ieithoedd ar ôl cwymp Tŵr Babel,

A phwy oedd yn siarad Cymraeg, a dybiwch chwi, y pryd hwn[n]w, ond Gomer, mab hynaf Japheth ab Noa ab Lamech (... ) ab Adda ap Duw. Dyma i chwi waedoliaeth ac ach yr hen Gymry, cyfuwch a'r un a all un bonedd daearol fyth bosibl i gyrraedd ato, pe baem ni eu hepil yn well o hyn[n]y.[2]

Llyfryddiaeth

golygu

Gwaith Theophilus Evans

golygu
  • Galwedigaeth Ddifrifol i'r Crynwyr.. (1715). Cyfieithiad.
  • Cydwybod y Cyfaill Gorau ar y Ddaear (1715). Cyfieithiad.
  • Drych y Prif Oesoedd (1716). Y fersiwn cyntaf.
  • Prydferthwch Sancteiddrwydd yn y Weddi Gyffredin (1722). Cyfieithiad.
  • Pwyll y Pader... (1733). Cyfieithiad.
  • Llythyr-Addysc Esgob Llundain (1740). Cyfieithiad.
  • Drych y Prif Oesoedd (1740). Ail argraffiad diwygiedig, llawer helaethach.
  • Drych y Dyn Maleisus (1747?). Pregethau.
  • A History of Modern Enthusiasm from the Reformation to the Present Times (1752)
  • Pregeth yn dangos beth yw Natur ac Anian y Pechod yn erbyn Yr Ysbryd Glân (1760)

Golygiadau o'i waith ac ymdriniaethau

golygu
  • Garfield H. Hughes, Theophilus Evans a Drych y Prif Oesoedd (Caerdydd, 1963)
  • Bedwyr Lewis Jones, 'Theophilus Evans', Y Traddodiad Rhyddiaith (Gwasg Gomer, 1970)
  • David Thomas (gol.), Drych y Prif Oesoedd (Caerdydd, 1955). Argraffiad safonol gyda nodiadau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Glenda Carr, William Owen Pughe (Gwasg Prifysgol Cymru, 1983), tudalennau 77, 183.
  2. Theophilus Evans, Drych y Prif Oesoedd, pennod 8,9.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.