Ria Jones

actores

Cantores o Gymru yw Ria Jones (ganwyd 8 Mawrth 1967). Mae'n adnabyddus am berfformio mewn sioeau cerdd yn West End Llundain a chyngerddau yn rhyngwladol.[1]

Ria Jones
Ganwyd8 Mawrth 1967 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, actor mewn theatr gerdd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://riajones.co.uk/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd Ria yng Nghwmdu yn chwaer iau i Ceri Dupree. Yn blentyn byddai ei rhieni yn mynd â hi a'i brawd i weld y pantomeim blynyddol yn Theatr y Grand, Abertawe, a datblygodd ei chariad at fyd y theatr. Dysgodd ddawnsio tap yn ysgol Phyllis Jones yn Fleet Street, Abertawe a chafodd berfformio yn theatr y Grand yn ddeng mlwydd oed pan fe'i dewiswyd i chwarae un o'r 'Babes' yn Cinderella gyda Clive Dunn yn 1977/78.

Yn 19 oed daeth yr actores ieuengaf erioed i chwarae rhan Eva Peron yn sioe gerdd Evita ac yna ymddangosodd yn y West End am y tro cyntaf yn sioe Chess, lle chwaraeodd rannau Svetlana a Florence. Aeth ymlaen i chwarae Grizabella yn Cats am ddwy flynedd yn y New London Theatre.

Disgyddiaeth

golygu
  • ABBAphonic (albwm, RPOSP029, 2011)
  • Have You Met Miss Jones? (albwm, 2011)
  • It's Better With A Band (albwm, 2012)

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Ria Jones. Swansea’s Grand. Adalwyd ar 26 Hydref 2019.

Dolenni allanol

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.