Richard Jones Berwyn

arloeswr a llenor
(Ailgyfeiriad o Richard Berwyn)

Un o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia oedd Richard Jones Berwyn, mwy adnabyddus fel R. J. Berwyn, ganed Richard Jones (31 Hydref 183725 Rhagfyr 1917).

Richard Jones Berwyn
FfugenwRichard Jones Berwyn Edit this on Wikidata
Ganwyd1838 Edit this on Wikidata
Tregeiriog, Glyndyfrdwy Edit this on Wikidata
Bu farw25 Rhagfyr 1917 Edit this on Wikidata
Dyffryn Camwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Nhregeiriog yn ardal Y Berwyn; cymerodd "Berwyn" fel cyfenw yn ddiweddarach. Hyfforddodd Berwyn fel athro ysgol, ond roedd ganddo hefyd drwydded morwr a daeth yn gyfrifydd. Treuliodd rai blynyddoedd yn gweithio yn Llundain, yna ymfudodd i'r Unol Daleithiau lle daeth yn rhan o'r ymgyrch i gael Gwladfa Gymreig gyda gwŷr fel Edwin Cynrig Roberts. Dychwelodd i Gymru i deithio i Batagonia ar y Mimosa, gan weithio fel cyfrifydd i dalu ei gludiant.

Bu ganddo nifer o swyddi cyhoeddus yn y Wladfa, gan gynnwys gweithredu fel Cofrestrydd. Priododd Elizabeth Pritchard yn Rawson ar 25 Rhagfyr 1868. Bu'n cadw ysgol yno, ac ysgrifennodd lyfrau ar gyfer eu defnyddio yn yr ysgol. Gwerslyvr i Ddysgu Darllen at Wasanaeth Ysgolion y Wladva (1878) oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu yn Ne America.

Dolen allanol

golygu