Tref yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, yw Rawson (yn wreiddiol "Trerawson"), sy'n brifddinas y dalaith a sir (departamento) Rawson. Un o brifddinasoedd taleithiol lleiaf yr Ariannin yw hi, gyda phoblogaeth o ryw 25,000, a rhyw 122,000 o bobl yn byw yn y departamento. Mae Rawson rhyw 1470 km o Buenos Aires a thua 7 km o'r môr (Playa Union).

Rawson
Mathdinas, bwrdeistref Edit this on Wikidata
Poblogaeth31,787, 24,616, 26,183 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1865 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRawson Department Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Uwch y môr4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.3°S 65.1°W Edit this on Wikidata
Cod postU9103 Edit this on Wikidata
Map
Magu defaid yn Rawson
Yr hen bont dros Afon Camwy, Rawson

Sylfaenwyd y dref ar 15 Medi 1865, gan Gymry o'r llong Mimosa. Fe'i henwyd ar ôl Guillermo Rawson, gweinidog materion mewnol yr Ariannin ar y pryd, cefnogwr o gynllun y Wladfa Gymraeg. Adeiladwyd llawer o adeiladau llywodraethol newydd yn y 1970au, gan achosi i'r dref gael llysenw "Brasilia bach Patagonia" (La Pequeña Brasilia de la Patagonia).

Mae hinsawdd Rawson yn sych, gyda thymheredd o 0 °C i 15 °C ar gyfartaledd yn y gaeaf, 10 °C i 20 °C yn y gwanwyn a'r hydref, hyd at 38 °C yn yr haf.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Ariannin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.