Richard Elis
Actor Cymreig yw Richard Elis (ganwyd 1975). Mae'n enedigol o Ddyffryn Aman a threuliodd ei blentyndod yn Llandybie.[1]
Richard Elis | |
---|---|
Ganwyd | 1975 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Priod | Tonya Smith |
Gyrfa
golyguFe'i hyfforddwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a graddiodd yn 1996 yn 24 oed.[2] Dyddiau cyn iddo raddio, gofynnwyd i Elis roi clyweliadau i asiantaethau castio yn Llundain ac yn ddiweddarach fe'i castiwyd fel Huw Edwards - y cymeriad Cymreig cyntaf ar opera sebon y BBC, Eastenders. Dim ond tair pennod oedd Elis fod i ymddangos ynddo i ddechrau, ond fe estynnwyd ei gontract. Parhaodd Elis yn y sebon am dair blynedd, a gadael yn 1999 gan ofni teip gastio.[2]
Fe aeth ymlaen i ymddangos yn nramau S4C Ar Y Tracs a Pobol Y Cwm, nifer o gynyrchiadau theatr a rhannau yn opera sebon ITV Nuts and Bolts, The Bill, Casualty a Doctors. Mae wedi ymddangos ar amryw o hysbysebion ar gyfer cynnyrch a brandiau tebyg i Wicked, Bisto, McLeans, Sky, Peugeot, Renault, cwmni llaeth Iseldiraidd ac yn nodedig yn hysbysebion diodydd WKD.[2]
Bywyd Personol
golyguMae Elis yn byw yng Nghaerdydd ac yn briod gyda Tonya Smith, actores oedd yn chwarae Yvonne ar opera sebon Pobol Y Cwm.[3] Fe briododd y ddau yn 1998 ac mae ganddynt un ferch, Alys Hedd.
Mae ei dad, Lynne Jones yn gyn-athro, cynllunydd setiau ac actor. Mae ei fam Glenys yn gweithio yn Ysgol Tregib Llandeilo lle mae'n gweithio gyda phlant ac anghenion addysg arbennig. Mae ei frawd Robert yn gweithio fel dyn camera.[2][4]
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Sixties icon joins EastEnders". BBC News. 3 April 2003. Cyrchwyd 1 July 2009.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "East End Welsh boy". Western Mail. 13 February 2010. Cyrchwyd 1 July 2009.
- ↑ "EASTENDER HUW WEDS HIS PATIENT". The People. 19 April 1999. Cyrchwyd 1 July 2009.
- ↑ MY FAVOURITE ROOM: Actor Wynford Lynne Jones, WalesOnline; Adalwyd 2015-12-16