Richard Jones (cerddor)
Cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd o Gymro oedd Richard John Jones (4 Awst 1955 – 28 Gorffennaf 2021). Gyda'i frawd Wyn ffurfiodd y grŵp Ail Symudiad a chwmni recordiau Fflach yn Aberteifi.[1]
Richard Jones | |
---|---|
Ganwyd | Richard John Jones 4 Awst 1955 Aberteifi |
Bu farw | Gorffennaf 2021 Aberteifi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr, cerddor, cyfansoddwr |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Richard yn fab i Moelwyn a Betty Jones, yn frawd hŷn i Wyn (1959–2021). Fe'i magwyd yn Aberteifi.
Yn 1978, ar ddiwedd y cyfnod pync, ffurfiodd y band Ail Symudiad gyda'i frawd. Richard oedd prif leisydd a chyfansoddwr y band.
Yn 1981, sefydlodd Wyn a Richard label Fflach, a'u bwriad oedd recordio caneuon gan grwpiau newydd oedd yn datblygu yn y cyfnod - grwpiau fel Y Ficar ac Eryr Wen.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017, urddwyd Wyn a Richard gyda'r wisg werdd wrth eu derbyn i'r Orsedd.
Roedd yn briod ag Ann, ac roedd ganddynt ddau fab, Dafydd ac Osian. Daeth ei blant yn rhan o Ail Symudiad yn ddiweddarach, a rhyddhawyd Rifiera Gymreig yn 2010, albwm cyntaf y band ers 15 mlynedd.[2]
Marwolaeth
golyguBu farw yn 65 mlwydd oed, ychydig dros fis wedi marwolaeth ei frawd Wyn. Yn ddiweddarach, cyhoeddodd ei deulu yr achos marwolaeth. Dywedon nhw ei fod wedi marw o gymlethdodau sydyn oherwydd canser yr afu heb ddiagnosis.[3] Cynhaliwyd ei angladd ar 14 Awst 2021.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Marw Richard Jones, Ail Symudiad: “Does dim modd siarad am un brawd heb y llall” , Golwg360, 29 Gorffennaf 2021.
- ↑ “Ail Symudiad” yn cael ail wynt , Golwg360, 25 Mawrth 2010. Cyrchwyd ar 29 Gorffennaf 2021.
- ↑ @AilSymudiadBand (9 Awst 2021). "Ypdêt ar Dad / Richard. Update on Dad / Richard" (Trydariad) – drwy Twitter.
- ↑ 'Richard Fflach' to take centre stage for one last time in Cardigan , Tivyside Advertiser, 5 Awst 2021. Cyrchwyd ar 14 Awst 2021.