Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 ger Bodedern, Ynys Môn, ar 4-12 Awst 2017. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod ar 26 Mehefin 2016 yn neuadd yr ysgol uwchradd yng Nghaergybi, gyda'r Archdderwydd Geraint Llifon wrth y llyw.[2] Roedd yr Eisteddfod yn cynnal prosiect i ddathlu canmlwyddiant Eisteddfod y Gadair Ddu a gynhaliwyd ym Mhenbedw ym 1917.[3] Rhoddwyd targed o £325,000 i'r gronfa leol, a chafwyd record newydd ar y pryd, gan guro cyfanswm 2014 yn Sir Gâr, with i drigolion Môn godi £412,000.[4] Am y tro cyntaf, roedd modd gwrando ar gyfeiliannau ar gyfer y darnau gosod ar wefan yr Eisteddfod.[5]
Prif gystadlaethau
golyguY Gadair
golyguEnillydd y gadair oedd Osian Rhys Jones (ffugenw Gari); roedd 12 ymgais a'r dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau o dan y teitl Arwr neu Arwres. Traddodwyd y feirniadaeth gan Peredur Lynch ar ran ei gyd-feirniaid Huw Meirion Edwards ac Emyr Lewis. Dywedodd y beirniaid fod hi'n gystadleuaeth agos a bod tri yn deilwng o'r gadair gyda dau o'r tri beirniad yn ffafrio Gari.
Y Goron
golyguEnillydd y goron oedd Gwion Hallam (ffugenw 'elwyn/ annie/ janet/ jiws.') o Felinheli ger Caernarfon; roedd 34 wedi cystadlu a'r dasg oedd ysgrifennu pryddest ar y testun 'Trwy Ddrych'. Traddodwyd y feirniadaeth gan M. Wynn Thomas ar ran ei gyd-feirniaid Glenys Mair Roberts a Gwynne Williams.[6]
Gwobr Goffa Daniel Owen
golyguTasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, yn rhoddedig gan Ann Clwyd er cof am ei phriod Owen Roberts, Niwbwrch. Cafwyd 13 o nofelau ond nid oedd yr un ymgais yn haeddu’r wobr yn ôl y beirniaid Bethan Gwanas, Caryl Lewis a’r diweddar Tony Bianchi.
Y Fedal Ryddiaith
golyguEnillydd y fedal oedd Sonia Edwards o Langefni ddeunaw mlynedd ar ôl iddi ennill y fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1999. Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema 'Cysgodion' gyda gwobr ariannol o £750 yn ogystal a'r fedal. Derbyniwyd 20 o gyfrolau eleni a traddodwyd y feirniadaeth gan Gerwyn Williams ar ran ei gyd-feirniaid Francesca Rhydderch a Lleucu Roberts.[7]
Tlws y Cerddor
golyguY dasg oedd cyfansoddi darn i fand pres yn seiliedig ar y thema seryddiaeth, sêr, planedau a / neu’r gofod, heb fod yn hwy na saith munud. Cafwyd naw ymgais ond nid oedd neb yn deilwng o'r wobr eleni, yn ôl y beirniaid Geraint Cynan, Branwen Gwyn a Philip Harper.[8]
Y Fedal Ddrama
golyguEnillydd y fedal oedd Heiddwen Tomos, yn wreiddiol o Lanybydder sydd nawr yn byw ym Mhengarreg, am ei drama Milwr yn y Meddwl; roedd 17 o ymgeiswyr a'r dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Y beirniaid oedd Siân Summers, Sara Lloyd a Tony Llewelyn Roberts.
Prosiect Hedd Wyn
golyguBu Mari Lloyd Pritchard yn cyd-lyny ac arwain prosiect creadigol oedd yn cynnwys Aled a Dafydd Hughes o'r band Cowbois Rhos Botwnnog er mwyn cofio aberth y Cymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gydweithio gydag amryw o artistiaid a pherfformwyr er mwyn creu cyfanwaith newydd ym mhafiliwn yr Eisteddfod gan gynnwys cyngerdd Côr yr Eisteddfod. Bydd y bardd Guto Dafydd a Grahame Davies a'r cyfansoddwr Paul Mealor o Lanelwy, Sir Ddinbych hefyd yn rhan o'r prosiect.
Cyngherddau a cherddoriaeth fyw gyda'r nos
golyguCyngherddau'r Pafilwin
golyguNos Wener: A Oes Heddwch? Nos Sadwrn: Gwyn Hughes Jones, Steffan Lloyd Owen, Meilir Jones, Llio Evans a Meinir Wyn Roberts. Gydag Iwan Llewelyn-Jones ar y piano ac Ensemble Siambr Rhys Taylor. Nos Sul: Cymanfa Ganu Mari Lloyd Pritchard yn arwain, gyda Seindorf Biwmares a'u harweinydd, Gwyn Evans yn cyfeilio. Yr organydd oedd Gres Pritchard. Nos Lun : Noson Lawen Ynys Mon. Dilwyn Morgan yn cyflwyno Elin Fflur, Cor Glanaethwy, Eilir Jones, Wil Tân, Trio, Y Tri Trwmpedwr (Gwyn Evans, Gwyn Owen a Cai Isfryn), Bach a Mawr ac Edern. Nos Fawrth: Hynna Be 'Di o! Sioe Lwyfan Criw Tudur Owen. Nos Iau 10 Awst: Gig y Pafiliwn. Huw Stephens yn cyflwyno Yws Gwynedd, Yr Eira, Alys Williams a Mr Phormula gyda Cherddorfa'r Welsh Pops Orchestra.[9]
Maes B
golyguNos Fercher | Nos Iau | Nos Wener | Nos Sadwrn |
---|---|---|---|
Candelas, Ffug, Cpt Smith, Chroma | Bryn Fôn a'r Band, Fleur de Lys, Calfari, Ffracas | Sŵnami, Yr Eira, Ysgol Sul, Hyll | Yws Gwynedd, Y Reu, HMS Morris, Enillwyr Brwydr y Bandiau |
Torrodd Maes B Eisteddfod Ynys Môn sawl record, gyda bron i 13,000 o bobl yn dod i'r ŵyl. Roedd mwy nag erioed hefyd wedi prynu tocynnau ymlaen llaw. Golygodd hyn bu'n rhaid archebu strwythur mwy er mwyn sicrhau bod lle i bawb yn y gigs gyda'r nos. Roedd hi'n ugain mlynedd ers cynnal Maes B am y tro cyntaf yn Eisteddfod 1997 yn Y Bala.[10]
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Ynys Môn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Medal Aur yr Eisteddfod i artist o Gaerdydd , Golwg360, 5 Awst 2017.
- ↑ Gwefan eisteddfod.cymru; Archifwyd 2020-08-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 10 Awst 2016.
- ↑ Gwefan eisteddfod.cymru; Archifwyd 2016-11-24 yn y Peiriant Wayback adalwyd 10 Awst 2016.
- ↑ Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. BBC Cymru (5 Awst 2017).
- ↑ ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIADAU ARIANNOL am y flwyddyn yn gorffen 31 Rhagfyr 2017
- ↑ Pobol â dementia’n ysbrydoli bardd y Goron. Golwg360 (7 Awst 2017).
- ↑ Ail Fedal Ryddiaith Eisteddfod Ynys Môn i Sonia Edwards. Eisteddfod Genedlaethol (9 Awst 2017).
- ↑ Neb yn deilwng o Dlws y Cerddor ym mhrifwyl Môn , Golwg360, 9 Awst 2017.
- ↑ ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIADAU ARIANNOL am y flwyddyn yn gorffen 31 Rhagfyr 2017
- ↑ ADRODDIAD BLYNYDDOL A DATGANIADAU ARIANNOL am y flwyddyn yn gorffen 31 Rhagfyr 2017