Richard Morgan

prifathro a naturiaethwr (1854–1939)

Naturiaethwr Cymreig oedd Richard Morgan (1854 - 1939). Roedd yn dod yn wreiddiol o Dal-y-bont yng Ngheredigion.

Richard Morgan
Ganwyd1854 Edit this on Wikidata
Tal-y-bont Edit this on Wikidata
Bu farw1 Medi 1939 Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro, naturiaethydd Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Fe aeth i Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor. Fe aeth ymlaen i fod yn athro yn Aberystwyth ac wedyn yn brifathro ysgol gynradd Llanarmon-yn-Ial yn sir Ddinbych am ddeugain mlynedd. Cafodd Morgan radd MA gan Brifysgol Cymru ym 1922.

Cyhoeddodd llawer o erthyglau ar agweddau gwahanol o fyd natur. Cyhoeddodd yr erthyglau hyn mewn cylchgronau megis Cymru a Cymru'r Plant.

Yn ôl llyfr O.E. Roberts, roedd Morgan yn berson oedd yn ysgrifennu'n glir ac uniongyrchol. Dyma rhan allan o un o gyfrolau Morgan:[1]

Welsoch chwi nyth Robin erioed? Mae yn ei gosod mewn lleoedd od weithiau. Waeth ganddo yn y byd ble os ca dwll cysgodol i'w rhoi. Gwelais un llynedd wedi ei gosod mewn hen botel; gwelais lun un wedi ei gwneud mewn hen esgid; ac un arall mewn hen focs biscets; ac un arall mewn pot blodau. Ond mewn twll yn y clawdd, neu mewn ceulan y cewch nyth Robin amlaf. Sut y mae yn ei gwneud? Mae yn rhoi ychydig o ddail crin ar geg y twll, ac ychydig ar ei waelod; yna pletha y nyth yn dwt dan do y twll, o wellt sych, a mwsgwl. Hulia hi o'r tu mewn â gwlan, a blew a rhawn i'w gwneud yn esmwyth i'r cywion.

Bu farw yn Nhal-y-bont yn 1939.

Cyfrolau golygu

  • Tro Trwy'r Wig (1906)
  • Llyfr Adar (1907)
  • Llyfr Blodau (1909)
  • Rhamant y Gog Lwydlas (1925)

Cyfeiriadau golygu

  1. Roberts, O.E (1980). Rhai o Wyddonwyr Cymru. Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. t. 35.