Cymru'r Plant
Cylchgrawn poblogaidd, Cymraeg ei iaith, i blant a ddaeth yn gysylltiedig gydag Urdd Gobaith Cymru yw Cymru'r Plant a sefydlwyd gan Syr O.M. Edwards gyda'r rhifyn gyntaf ym mis Ionawr 1892. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd storïau, barddoniaeth, caneuon ac erthyglau ar hanes Cymru. Ymhlith golygyddion y cylchgrawn oedd Syr Owen Morgan Edwards (1858-1920) a'i fab, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, Syr Ifan ab Owen Edwards (1895-1970). Teitlau cysylltiol: Cymru'r Plant Bach (1924); Cronicl yr Urdd (1929); Y Capten (1931); Y Cronicl (1937); Yr Aelwyd (1940); Cymraeg (1955); Cymru (1956); a Cip (1987).[1]
Enghraifft o'r canlynol | Cymru'r plant |
---|---|
Golygydd | Owen Morgan Edwards |
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | Ionawr 1892 |
Cyhoeddwyd gan D. W. Davies, Caernarfon. Mae rhifynau wedi eu digido ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein, sydd, fel Papurau Newydd Cymru Ar-lein o dan adain y Llyfrgell Genedlaethol.[1]
Ymateb
golyguCeir cyfeiriad i'r cylchgrawn newydd yn y Cardiff Times lle nodir "the first number is quite a marvel for a pennyworth. Perhaps the most valuable feature m it is the exquisite little map of Wales which Mr Edwards has drown, denoting the birthplaces of eminent Welshmen. ... The editor states in his preface that it is to be an undenominational magazine, as Wales possesses already denominational magazines"[2]
Sefydlu'r Urdd
golyguAr farwolaeth O.M.Edwards, daeth ei fab, Syr Ifan, yn olygydd cylchgrawn ‘Cymru’r Plant’ ac yn y cylchgrawn hwn ym 1922 yr apeliodd ar blant Cymru i ymuno â mudiad newydd, sef ‘Urdd Gobaith Cymru Fach’ a ddaeth, maes o law yn Urdd Gobaith Cymru. Cafwyd ymateb cadarnhaol o’r cychwyn cyntaf. Derbyniwyd llwyth o lythyrau a syniadau, ac roedd brwdfrydedd yr aelodau yn llethu ‘Cymru’r Plant’ a gwasg Hughes a’i fab yn Wrecsam. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf roedd 720 o enwau aelodau wedi ymddangos yn y cylchgrawn a channoedd mwy yn aros eu tro. Sefydlwyd Adran gyntaf yr Urdd yn Treuddyn, Sir Fflint ym 1922.[3]
Cymru'r Plant ar-lein
golyguMae cynnwys cynnar y papur wedi ei ddigido ac ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol. Ceir rhifynau rhwng 1892 ac 1910 wedi eu digido gyda'r cylchgrawn yn cael ei chyhoeddi'r fisol.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Cymru'r Plant". Cylchgronau Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ "Cymru'r Plant". The Cardiff Times ar Papurau Newydd Cymru Ar-lein. 30 Ionawr 1892. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
- ↑ "Ein Hanes". Gwefan Urdd Gobaith Cymru. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2023.
Dolenni allanol
golygu- 'Cymru'r Plant' ar is-wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Clawr Cymru'r Plant 1986-87 ar wefan Casgliad y Werin
- Cân 'Cymru'r Plant' yng nghyngerdd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gâr 2007
- Language, culture and identity in Welsh children's literature: O.M. Edwards and Cymru'r Plant 1892-1920 traethawd Siwan M. Rosser, 2012