Richard Owen (Y Diwygiwr)

gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Diwygiwr a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd Richard Owen (183916 Chwefror 1887). Cafodd ei fagu yn Ystum Werddon, Llangristiolus, Ynys Mon. Ei fam oedd Mary Owen a'i dâd John Owen. Bu farw ei dad pan oedd yn 11 mlwydd oed a fe gollodd ei frawd hynnaf ar ôl tua blwyddyn.

Richard Owen
Ganwyd1839 Edit this on Wikidata
Llangristiolus Edit this on Wikidata
Bu farw16 Chwefror 1887 Edit this on Wikidata
Pentraeth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Ei briod oedd Ellen Owen (née Evans) yn 1867. Am bedair blynedd roeddent yn byw yn Rhos-cefn-hir. Pentraeth — Ellen yn masnachu, ac Richard yn efengylu. Roedddent wedyn yn byw am dymor yn Llundain, ac ar ei ddychweliad yn ôl yn 1873 fe'i hordeiniwyd. Ar ôl dod yn ôl ac ymsefydlu roedd yn amlwg ei fod wedi cael dylanwad dros Gymru gyfan. Am dymor byr roedd ei gartref yn Ninbych ac wedyn yn Aberystwyth, a bu farw yn Nhycroes, Pentraeth, Môn.

Gyrfa golygu

Pan ddaeth yr amser iddo ymuno a'r weinidogaeth roedd gwrthdaro ymysg yr arweinwyr.[1] Fe ymunodd a Goleg y Bala yn 1863, roedd yn anodd iawn, hyd yn oed amhosib, iddo i wneud cynnydd enfawr yn ei waith gan ei fod yn efengylydd wneuthur.

Ffynonellau golygu

  • W. Pritchard, Cofiant a Phregethau y Parch. Richard Owen, y 'Diwygiwr' (Amlwch 1889), 1889;
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the present (1908);
  • Y Traethodydd, 1888, 296-310.

Cyfeiriadau golygu

  1. "OWEN, RICHARD (1839 - 1887), 'y diwygiwr,' gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-17.