Agor y brif ddewislen

Pentraeth

pentref ar Ynys Môn

Pentref a chymuned yn ne-ddwyrain Môn, Cymru, yw Pentraeth, ar lôn yr A5025. Ceir Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cors Bodeilio gerllaw.

Pentraeth
Cofgolofn Rhyfel Pentraeth War Memorial - geograph.org.uk - 389308.jpg
Math pentref, cymuned Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Brwydr Pentraeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn, Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Yn ffinio gyda Cwm Cadnant Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.2837°N 4.2169°W, 53.28306°N 4.205415°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000873 Edit this on Wikidata
Cod OS SH5306678500 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au Virginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Teras y Nant, Penraeth

Hanes a thraddodiadGolygu

Yn yr Oesoedd Canol roedd yn gorwedd yng nghwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Ystyr yr enw yw "diwedd y traeth" ond erbyn heddiw mae'r môr (Y Traeth Coch) yn filltir i ffwrdd o'r pentref. Hen enw'r pentref a'r plwyf oedd Llanfair Betws Geraint (weithiau Betws Geraint yn unig).[1]

Ceir hen chwareli yn y bryniau isel ger y pentref. I'r dwyrain o'r eglwys ceir tri maen hir a elwir Y Tair Naid. Heb fod ymhell o'r pentref i gyfeiriad y gorllewin mae traddodiad yn nodi'r man lle cyflawnodd y bardd Einion ap Gwalchmai "Naid Abernodwydd".

Brwydr PentraethGolygu

Ymladdwyd Brwydr Pentraeth ar farwolaeth Owain Gwynedd yn 1170. Bu brwydro rhwng ei feibion am arglwyddiaeth Gwynedd. Gorfodwyd y bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd i ffoi i Iwerddon gan ei hanner-brodyr Dafydd ab Owain Gwynedd a Rhodri. Dychwelodd Hywel yr un flwyddyn gyda byddin o Iwerddon, ond trechwyd ef a'i ladd gan Dafydd a Rhodri ym mrwydr Pentraeth. Coffheir Hywel a'i frodyr maeth mewn dwy gyfres o englynion marwnad gan y bardd Peryf ap Cedifor.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pentraeth (pob oed) (1,178)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pentraeth) (633)
  
56%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pentraeth) (724)
  
61.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pentraeth) (158)
  
31.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. VisionOfBritain.org
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013