Richard Price (AS Maesyfed)
Roedd Richard Price (1773 - 10 Ebrill, 1861) yn wleidydd Torïaidd Cymreig. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Maesyfed o 1799 i 1847.[1]
Richard Price | |
---|---|
Ganwyd | 1773 Tref-y-clawdd |
Bu farw | 10 Ebrill 1861 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Richard Price |
Mam | Margaret Humphreys |
Roedd Price yn fab hynaf Richard Price, cyfreithiwr o Norton Manor, Trefyclo a Margaret merch Charles Humphreys, cyfreithiwr neuadd Pennant Hall, Trefaldwyn bu ei ewythr Chase Price yn AS Sir Faesyfed o 1768 i 1777. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen.
Roedd sedd Maesyfed yn un dan nawdd 5ed Iarll Rhydychen, ewythr yr Iarll sicrhaodd y sedd ar gyfer Price pan ddaeth yn wag ym 1799. Ar ôl cael ei ethol am y tro cyntaf aeth Price ati i ddatblygu sylfaen o gefnogaeth bersonol yn yr etholaeth ac o fewn cyfnod o ddeng mlynedd yr oedd yn gallu gwrthwynebu diddordebau Rhydychen ym Maesyfed.
Ni fu yn aelod seneddol gweithgar yr oedd yn cefnogi'r gweinyddiaethau Torïaidd mewn pleidlais ond erbyn 1832 ei unig gyfraniadau i ddadleuon ar lawr Tŷ'r Cyffredin oedd rai i wrthwynebu diwygio'r senedd.
Bu farw Ebrill 10, 1861, yn 88 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Is-iarll Malden |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Maesyfed 1799 – 1847 |
Olynydd: Thomas Frankland Lewis |