Thomas Frankland Lewis
Roedd Syr Thomas Frankland Lewis (14 Mai, 1780 - 22 Ionawr, 1855) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Biwmares, etholaeth Ennis yng Ngogledd yr Iwerddon, Sir Faesyfed a Bwrdeistref Maesyfed[1]
Thomas Frankland Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mai 1780 Middlesex |
Bu farw | 22 Ionawr 1855 Pencraig |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | John Lewis |
Mam | Anne Frankland |
Priod | Harriet Cornewall, Marianne Lewis |
Plant | George Cornewall Lewis, Gilbert Lewis |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Lewis yn Great Ormond Street, Llundain yn unig fab John Lewis, bargyfreithiwr a thirfeddiannwr o ystâd Harpton Court, Sir Faesyfed ac Ann ei ail wraig, roedd hi'n ferch i Syr Thomas Frankland o Thirkleby Park, Swydd Efrog.
Cafodd Lewis ei addysgu yng Ngholeg Eton ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen; ymadawodd o'r brifysgol heb dderbyn gradd, gan fod ei dad wedi marw ym 1797 a bu'n rhaid i Lewis gymryd cyfrifoldeb am yr ystâd sylweddol bu iddo etifeddu yn Sir Faesyfed.
Priododd Harriett Cornewall ym 1805, bu iddynt dau fab, y mab hynaf oedd George Cornewall Lewis a'i olynodd fel AS Bwrdeistref Maesyfed.
Ym 1839 priododd ei ail wraig Marianne merch y Capten John Asheton.[2]
Gyrfa Wleidyddol
golyguAelod Biwmares
golyguBu nifer o gyndeidiau Lewis yn cynrychioli, Maesyfed yn y Senedd, gan gynnwys Thomas Lewis, ei hen, hen, hen, daid ac AS cyntaf etholaeth y fwrdeistref, Thomas Lewis ei daid, a John Lewis ei dad[3]. Roedd Frankland Lewis yn awyddus iawn i ddilyn eu trywydd, ond gan nad oedd gwagle ar ei gyfer derbyniodd gwahoddiad yr Arglwydd Bulkeley i gynrychioli Bwrdeistref Biwmares (sedd oedd ym mhoced teulu Bulckley) gan gynrychioli'r etholaeth o 1812 i 1826. Yn ystod y cyfnod hwn o'i yrfa Seneddol fe fu'n dilyn ei noddwr, Thomas Bulkeley trwy gefnogi Chwigiaid yr Arglwydd Grenville ac yn ymddiddori'n fawr ar bolisïau a oedd yn ymwneud â thlodi ac â materion ariannol. Un o'i weithgareddau mwyaf nodedig oedd sicrhau bod ymchwiliad i'r cysyniad o Wledydd Prydain yn mabwysiadu system ariannol ddegol yn cael ei ohirio ym 1824 (gohiriwyd y cysyniad am 150 mlynedd!).[4]
Aelod Ennis
golyguEr mwyn ryddhau ei hun oddi wrth ddylanwad Bulkeley a Greneville derbyniodd Lewis wahoddiad gan Syr Edward O'Brian i gynrychioli etholaeth Bwrdeistref Ennis yn Swydd Clare, bu newid etholaeth yn rhoi iddo'r rhyddid i gefnogi llywodraethau Torïaidd Iarll Lerpwl a George Canning. Ym mis Medi 1827 cafodd ei benodi yn Is ysgrifennydd y Trysorlys ac ym 1828 cafodd ei benodi yn Is Lywydd y Bwrdd Masnach a'i godi'n aelod o'r Cyfrin Gyngor.
Aelod Sir Faesyfed
golyguYm mis Mawrth 1828 bu farw Walter Wilkins, Aelod Seneddol Sir Faesyfed, er ei fod yn awchu i gynrychioli'r Bwrdeistref, fel ei gyndadau, roedd swydd wag yn y Sir yn creu cyfle ail orau rhy dda i'w gwrthod, ymddiswyddodd fel AS Ennis a chafodd ei ethol fel AS Sir Faesyfed.
Ym 1828 fe ymddiswyddodd William Huskinsson, Llywydd y Bwrdd Masnach o Gabinet yr Arglwydd Wellington wedi anghytundeb parthed y Ddeddfau Ŷd, er iddo gael cynnig i aros yn y Llywodraeth fel Brif Ysgrifennydd yr Iwerddon, penderfynodd Lewis i ymddiswyddo gyda Huskinsson.
Ym 1830 cafodd ei adfer i Lywodraeth Wellington fel Trysorydd y Morlys, swydd segur, cafodd ei feirniadu'n hallt gan y Chwigiaid.
Wedi colli ei swydd pan gwympodd Llywodraeth Wellington ym 1830 bu Lewis yn gwrthwynebu polisïau Llywodraeth Chwig Iarll Grey ar ddiwygio'r bleidlais o feinciau cefn y Torïaid.
Comisiynydd
golyguYm mis Awst 1834 cafodd Lewis ei benodi fel Cadeirydd cyntaf Comisiwn Deddf y Tlodion dros Gymru a Lloegr[5]. Gan ei fod yn swydd all lywodraethol a oedd yn derbyn cyflog gan y llywodraeth bu'n rhaid i Lewis ildio ei sedd Seneddol. Yn ystod ei gyfnod ar y Comisiwn bu mewn anghydfod parhaus a Edwin Chadwick, Ysgrifennydd y Comisiwn. Ymddiswyddodd o'r corff, oherwydd resymau iechyd, ym 1839.
Ym 1841 cafodd ei benodi'n gadeirydd y comisiwn i ymchwilio i Helyntion Beca a'r comisiwn olynol a fu'n gyfrifol am ddiddymu'r ymddiriedolaethau tyrpeg.[6][7]
Ym 1846 fe'i crëwyd yn farwnig fel cydnabyddiaeth am waith gyhoeddus ef a'i etifedd[8].
Aelod Bwrdeistref Maesyfed
golyguYm 1847 ymneilltuodd Richard Price, AS Bwrdeistref Maesyfed ers bron i hanner canrif, o'r Senedd; gan gael gwared â rhwystr oes Lewis o gael gwireddu ei freuddwyd o gynrychioli sedd ei hynafiaid. Etholwyd Lewis yn ddiwrthwynebiad a llwyddodd i ddal ei afael ar y sedd am wyth mlynedd fel aelod Rhyddfrydol, mewn enw, ond heb gyfrannu lawer i waith y Senedd.[9]
Marwolaeth
golyguBu farw yn neuadd ei ystâd, Harpton Court[10] yn 74 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn Eglwys Maesyfed. Fe'i olynwyd yn y farwnigaeth ac fel AS Bwrdeistref Maesyfed gan George, ei fab hynaf.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur arlein LEWIS , Syr THOMAS FRANKLAND [1] adalwyd 4 Rhagfyr 20015
- ↑ Peter Mandler, ‘Lewis, Sir Thomas Frankland, first baronet (1780–1855)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 adalwyd 4 Rhagfyr, 2015
- ↑ "Parliamentary History of Radnor - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1893-12-30. Cyrchwyd 2015-12-04.
- ↑ The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009 LEWIS, Thomas Frankland (1780-1855), of Harpton Court, Rad. adalwyd 4 Rhagfyr 2015
- ↑ "FROM TUESDAY'S LONDON GAZETTE - The Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian". William Mallalieu. 1834-08-23. Cyrchwyd 2015-12-04.
- ↑ "COMMISSION FOR ENQUIRING INTO WELSH GRIEVANCES - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1843-11-04. Cyrchwyd 2015-12-04.
- ↑ "THE CHIEF MAGISTRACY OF LAUGHARNE - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1844-10-04. Cyrchwyd 2015-12-04.
- ↑ "Notitle - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1846-07-03. Cyrchwyd 2015-12-04.
- ↑ The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette adalwyd 4 Rhagfyr 2015
- ↑ "No title - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1855-02-02. Cyrchwyd 2015-12-04.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Edward Pryce Lloyd |
Aelod Seneddol Biwmares 1812 – 1826 |
Olynydd: Syr Robert Williams |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Richard Wellesley |
Aelod Seneddol Ennis 1826 – 1828 |
Olynydd: William Smith O'Brian |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Walter Wilkins |
Aelod Seneddol Sir Faesyfed 1828 – 1835 |
Olynydd: Walter Wilkins |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Richard Price |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Maesyfed 1847 – 1855 |
Olynydd: George Cornewall Lewis |