Roedd Bwrdeistref Maesyfed yn gyn etholaeth Gymreig rhwng 1542 a 1885 a oedd yn ethol un Aelod Seneddol (AS) i Dŷ'r Cyffredin. O dan Ddeddf Ailddosbarthu Seddi 1885 cafodd yr etholaeth ei chyfuno ag etholaeth Sir Faesyfed.
Yn niwedd y 17g bu anghydfod parthed y ffiniau a chafwyd dadleuon yn Nhŷ'r Cyffredin ar ôl i'r pwyllgor deisebau canfod yn erbyn canlyniad etholiadau 1689 a 1690. Gwaharddodd y pwyllgor y pleidleisiau o Lanandras a Chastell-paen (a Norton, mewn egwyddor, er bod neb wedi pleidleisio yno), wedi hynny dim ond bwrdeiswyr Faesyfed, Cefnllys, Trefyclo, Cnwclas a Rhaeadr Gwy oedd yn cael bwrw pleidlais. Ym 1832 cafodd Llanandras ei ail osod yn yr etholaeth.
Ar ôl y Ddeddf Diwygio Mawr (1832), cafwyd dau isetholiad ac un etholiad cyffredinol lle fu cystadlu am y sedd. Bu pob etholiad arall yn ddiwrthwynebiad.
Nicholas, Thomas Annals and antiquities of the counties and county families of Wales; Llundain 1872; Cyf II t 919 [1] adalwyd 21 Chwefror 2015
Craig, F.W.S. British Parliamentary Election Results 1918-1949 (Glasgow; Political Reference Publications, 1969)
James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 (Gwasg Gomer 1981) ISBN 0 85088 684 8